Hen lwybrau'r cwmwd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:02, 3 Gorffennaf 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio


Cyn dyddiau'r Rhufeiniaid â'u ffyrdd unionsyth, dichon bod teithio dros y tir yn iseldir yn anodd, oherwydd tyfiant trwchus a chorsdiroedd. Roedd ffermio ar y llethrau fodd bynnag a fyddai wedi gofyn am rywfaint o lwybrau a ffyrdd i gysylltu lle wrth le. At ei gilydd, fodd bynnag, haws oedd teithio ymhell ar y dwr ac er nad oedd afonydd yn Uwchgwyrfai yn rai y gellid hwylio ar hyd-ddynt, roedd y môr gerllaw, ac mae rhywfaint o dystiolaeth fod y CYmry cynnar wedi gwneud cryn defnydd o'r môr i gysylltu âmannau eraill o'r byd.