Y Fron

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:16, 15 Mehefin 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Y Fron yn bentref chwarelyddol ym mhen uchaf plwyf Llandwrog. Fe'i elwir weithiau'n Cesarea ar ôl y capel sydd yno - a Cesarea oedd wastad ar fleind cyfeiriad y bysiau a wasanaethai'r pentref. Enw arall am yr ardal hon yw Llandwrog Uchaf. Ardal o dir comin agored yn perthyn i'r goron oedd yma nes i'r chwareli ddatblygu, sef (yn bennaf) Chwarel lechi Sir Gaernarfon y Goron a Chwarel lechi Alexandria. Bu yma ysgol tan 2016 pan unwyd ysgolion y cylch dan enw Ysgol Bro Llifon mewn adeilad newydd yn Y Groeslon; y mae bwriad pellach i droi'r adeilad yn ganolfan i'r gymuned leol. Bellach mae pob siop yn y pentref wedi cau hefyd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma