John Gwilym Jones
Dramodydd a darlithydd Cymraeg oedd Dr. John Gwilym Jones (1904-1988).
Roedd yn frodor o’r Groeslon, ac yn ysgrifennydd llwyddiannus. Cyhoeddodd storïau a nofelau megis Y Goeden Eirin, a dramâu adnabyddus fel Y Tad a’r Mab a Ac Eto Nid Myfi. Bu'n athro yn Llundain am gyfnod, cyn cael swydd fel cynhyrchydd drama gyda’r BBC. Bu wedyn yn ddarlithydd poblogaidd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Gogledd Cymru, Bangor. Cyfrannodd at fywyd y Coleg hefyd trwy gynhyrchu nifer sylweddol o ddramâu ar gyfer Cymdeithas y Ddrama Gymraeg, a daeth sawl aelod, dan ei arweiniad o, yn actorion proffesiynol o'r radd flaenaf, megis John Ogwen a Maureen Rhys.
Cyfeiriadau
Erthygl am Dr. John Gwilym Jones ar Wicipedia
Cymdeithas Hanes Y Groeslon, Hanes y Groeslon (2000)