Melin Wyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:18, 6 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Melin Wyrfai'n dal i sefyll ger y bont ym mhentref Y Bontnewydd, er iddi gau fel melin ŷd ers llawer i flwyddyn. Yn ôl yr hanesydd Gilbert Williams, melin weddol ddiweddar yw'r felin hon, a thad Elis Wyn o Wyrfai, sef Morris Roberts (Eos Llyfnwy), melinydd wrth ei alwedigaeth, yn un o'r pedwar a'i hadeiladodd. Byddai hyn yn gosod dyddiad yr adeilad rhywbryd rhwng 1820 ac 1860.[1] Ers blynyddoedd mae wedi cael ei defnyddio fel adeilad ar gyfer cwmni o adeiladwyr ac fel gweithdai i nifer o fusnesau eraill. Pan oedd yn gweithio fel melin, roedd cafn melin yn dod â'r dŵr o fan yn uwch i fyny'r afon.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

  1. Y Bywgraffiadur Cymreig, t.810