Cwmni Moduron Caernarfon
Un o gwmnïau bysiau cynharaf i redeg o Gaernarfon i Lanaelhaearn a Phwllheli oedd Cwmni Moduron Caernarfon (neu'r Carnarvon Motors Ltd.). Ymddengys mai ym 1909 y cychwynnwyd rhedeg bws rhwng Caernarfon a Dinas Dinlle a'r un flwyddyn fe sefydlwyd y gwasanaeth i Lanaelhaearn, er na ffurfiwyd y cwmni'n swyddogol tan 1910.[1] - a dim syndod hynny, gan fod John Hughes, Brynarlais ac Augustus Henry Wheeler, Plas yr Eifl, y ddau yn byw ym mhlwyf Llanaelhaearn, oedd ymysg cyfarwyddwyr y cwmni. Un bws, y "Moto Glas", oedd yn darparu'r gwasanaeth, ac fe'i gedwid mewn cwt arbennig yng Nglan-rhyd, Llanaelhaearn.
Mae manylion y gwasanaethau cynnar i Lanaelhaearn a Phwllheli yn llyfr Geraint Jones, Trefor. Ymddengys, beth bynnag, na ddarperid gwasanaeth derbyniol, yn arbennig gan na aethai i fewn i bentref Trefor.[2]. Ceir amserlen yn y Genedl Gymreig ar gyfer Medi 1916 sydd yn dangos eu gwasanaeth trwy Uwchgwyrfai. Rhedai'r cwmni fysiau i Fethel, Ebeneser (Deiniolen) a Dinorwig (Llwybr Taith 2); a Waunfawr, Rhyd-ddu a Beddgelert (Llwybr Taith 3).[3] ond y daith i Lanaelhaearn oedd y cyntaf iddynt ei rhedeg, gan fod cofnod ar gael i'r cwmni gychwyn rhedeg char-a-bancs Thorneycroft rhwng Caernarfon a Llanaelhaearn yn ystod misoedd cyntaf 1910.[4]
Amserlen 1916
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma