Maen Coch

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:49, 5 Mawrth 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Casgliad o dai yw Maen Coch ar yr hen briffordd rhwng Ffingar (Llanwnda) a Dolydd. Yn wreiddiol dim ond un fferm, Cefn Coch, a oedd yma, ond rhwng 1840 a 1888 dau fwthyn dan yr un to - y 'Maen Coch' gwreiddiol; a chyn 1900 codwyd codwyd dau dŷ moel. Yn gynnar yn yr 20fed ganrif codwyd dau bâr o dai sylweddol wedyn nes ffurfio cymuned fach.[1] Ar draws y ffordd i Gefn Coch, ceir fferm hynafol Cefn Hendre, a elwid yn wreiddiol yn Cefn Cil Tyfu. Y tu hwnt i'r fferm yr oedd melin a wasanaethai'r ardal yn y Canol Oesoedd, sef Melin Cil Tyfu. Ar ochr y lôn tua 200 llath i'r gogledd o Faen Coch saif tŷ sylweddol Y Bryn; enw gwreiddiol y tŷ hwn oedd 'Fern Villa', a godwyd gan Mr Tanner, gorsaf-feistr y Lein Fach yng Nghorsaf Cyffordd Dinas. Fe godwyd Fern Villa ar safle hen dyddyn Cae Sais.[2]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau