Melin Glan-yr-afon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:02, 12 Chwefror 2018 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Safai Melin Glan-yr-afon ger fferm Glan-yr-afon ar lan ogleddol Afon Llyfnwy - ac felly ym mhlwyf Llanllyfni, gyferbyn â Lleuar Fawr. Roedd cafn neu ffrwd felin hir o'r afon yn arwain at y felin, er mwyn gyrru'r peiriannau. Ar fap Ordnans 1888 fe ddisgrifir y felin fel 'gwaith llechi', ond erbyn 1899, roedd y map Ordnans yn ei disgrifio fel melin wlân. Felly y disgrifiwyd hi ar fapiau 1920 a 1948 hefyd. Gan fod y mapiau hyn yn nodi a oedd melinau'n dal i droi neu ddim, gallir fod yn weddol sicr fod Melin Glan-yr-afon yn dal i drin gwlân tan ar ôl yr ail ryfel byd.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma