Chwarel Tŷ'n-y-weirglodd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:38, 3 Chwefror 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Ty'n-y-weirglodd, rhwng pentref Tanrallt a Nantlle.

Cafodd y safle yma i agor ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a chloddiwyd llechi gwyrdd a choch yma. Gan ei fod yn dwll cloddio bychan, roedd gwaith yno yn ysbeidiol a tua 100 o ddynion yn gweithio yno ar adegau. Credir i'r chwarel yma ddefnyddio inclein, ac yna blondin stem i gario'r cynnyrch allan. Roedd wedi cau erbyn 1953, er roedd cwmni Twll Coed wedi gweithio yno yn y 1970au.

Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma