Chwarel y Braich

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:28, 3 Chwefror 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi ar lethrau Moel Tryfan oedd Chwarel y Braich, ger y Fron.

Agorwyd hi yn y ddeunawfed ganrif, ac yn 1827 arbrofwyd ag ynni gwynt yno er mwyn pwmpio yn chwarel yr Hen Fraich (neu Braichrydd). Cafodd ei datblygu yn yr 1870au a defnyddiwyd stem i weithio'r peiriannau ac i bwmpio ar yr incleins. Roedd y chwarel ar ei hanterth yn 1882 pan gynhyrchwyd 2,600 tunnell yno, a chyflogwyd 124 o ddynion yno.

Roedd wedi cau erbyn 1911, er roedd gwaith ysbeidiol yno hyd y 1930au.

Ffynhonnell

Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma