Melin Cil Tyfu
Roedd Melin Cil Tyfu'n sefyll yn y ceunant i'r dwyrain o fferm bresennol Cefn Hendre, Maen Coch. Mewn ewyllys o 1693 gelwir Cefn Hendre yn Kefn alias Kefn Kîl Ddyfi. [1]. Roedd yn cael ei gyrru gan rym dŵr Afon Carrog. Erbyn hyn, nid oes dim i'w gweld.
Roedd y felin hon ym meddiant teulu Wynniaid Gwedir yn ystod ail hanner 16g, ac mae'n debyg iddo ei derbyn ar brydles oddi wrth y Goron. Erbyn 1566, roedd ym meddiant Morus Wynn o Wedir ac fe roddodd o brydles o fferm a melin Cil Tyfu i Wylliam ap Davidd ap Wylliam am gyfnod o 4 blynedd tua'r flwyddyn honno. Nodir yn y brydles honno fod yr eiddo'n gorwedd rhwng Afon Wyled a Gwern y Tryfan.[2] Yn sicr, mae safle Melin Cil Tyfu'n bur hen, a gall ei bod yn dyddio'n ôl i gyfnod y Tywysogion.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma