Gwersyll RAF Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:23, 25 Ionawr 2018 gan Miriamlloydjones (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Gwersyll ar gyfer hyfforddi milwyr a phersonél y lluodd arfog yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd Gwersyll RAF Llandwrog.

Penderfynwyd y byddai gwresyll yn cael ei hadeiladu yno ym mis Medi 1940, yn dilyn newid yn nhactegau milwrol byddin Almaen. Roedd hyfforddiant wedi dechrau yno mor fuan a Ionawr 1941, ac ym mis Gorffennaf 1941 roedd y ‘No.9 Air Gunners School’ yno yn hyfforddi.

Gosodwyd yr RAF Bomber Command yno hefyd, gan hyfforddi gunnwyr, llwyiwyr, a gweithredwyr radio. Roedd ar gau rhwng 1945 a 1969, ac roedd rhaid agor y maes yn 1969 ar achlysur Arwisgiad y Tywysog Siarl yng Nghastell Caernarfon.

Tim Achub Mynydd

Yn 1942, yn dilyn damweiniau ym mynyddoedd Gwynedd ac achosion o awyrennau yn cwympo, roedd tim o ddynion wedi dechrau gwirfoddoli i fynd ati i achub y rheiny a oedd wedi eu niweidio. Gwelir hwy yn ‘RAF Llandwrog Mountain Rescue Section’, ac er eu trafferth ac eu haberth am amser hir ni chafwyd y grŵp hwn statws broffesiynol hyd nes 1944.

Tabun

Roedd nwy Tabun yn cael ei gadw yn y safle am gyfnod hefyd. Roedd 71,000 tunnell yn cael ei gadw o fewn bynceri yno, ac yn 1954 symudwyd nhw oll oddi yno i Cairnryan, a’u dinistrwyd yn y mor.

Cyfeiriadau

Doylerush, Edward The Ledgend of Llandwrog, The Story of an airfield and the birth of the RAF Mountain Rescue Service. (Midland Counties Publications, 1994)

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma