Côr Carmel
Roedd Côr Carmel yn canu tua 1914, a dichon mai yn ystod flwyddyn honno neu'r flwyddyn flaenorol y cafodd ei ffurfio. Yr arweinydd oedd R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon).[1] Adroddodd yr Herald Cymraeg ddiwedd Mawrth 1914 fod y côr yn brysur yn paratoi at sawl cyfle i gystadlu, yn cynnwys canu yn Eisteddfod Genedlaethol Bangor. Roedd hefyd wedi trefnu i ganu yng "Nghyngerdd y Nyrsys" a fyddai'n cael ei gynnal yng Nghapel Bryn'rodyn yn ddiweddarach y flwyddyn honno.[2] Yn fuan ar ôl i'r Herald gyhoeddi ei adroddiad, bu'r côr yn llwyddiannus yn Eisteddfod y Pasg, Caernarfon, eisteddfod bwysig ar y pryd - ac i wneud ei fuddugoliaeth yn fwy trawiadol fyth, bu iddo guro côr ardderchog o Lerpwl.[3]
Ni cheir sôn am Gôr Carmel wedi i'r Rhyfel Mawr dorri allan, a dichon iddo ddod i ben yn fuan, er gwaethaf llewyrch ei berfformiadau.