Owen Lloyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:00, 5 Rhagfyr 2025 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn hŷn | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn diweddarach → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Owen Lloyd yn ŵr bonheddig (“gentleman”) a fu farw ym 1734.[1]. Gellir ei ystyried yn aelod o’r dosbarth o fân foneddigion a oedd yn dechrau ymffurfio’n ddosbarth canol trwy ddilyn galwedigaethau proffesiynol gan nad oedd eu statws cymdeithasol yn ddigonol iddynt gael eu hystyried ymysg rheolwyr naturiol y sir, sef y prif berchnogion ystadau. Yn achos Owen Lloyd, roedd yn berchen ar rywfaint o dir a oedd ar osod, ond fe ddaeth ei brif incwm o’i swydd fel swyddog tollau ac fel atwrnai neu gyfrifydd. Cafodd feddiant ar Dan-y-bryn, fodd bynnag, trwy ei briodas, a hynny wedi i nain ei wraig farw (ym 1714 yn ôl pob tebyg).[2]

Mab oedd Owen Lloyd i Owen Lloyd senior, yntau’n fab i John Lloyd, o Dŷ Newydd, Llannor. Roedd ganddo bedwar mab (Owen, Hugh, Samuel a Robert) a thair merch (Lowri, Sarah ac Anne). Priododd ym 1668 â Mary Jones, merch Griffith Jones o Fryntannie.[3] Bu farw Owen y tad rhwng 1725 a 1727, gan adael tua £19 mewn arian, ynghyd â’i ddodrefn, dillad ac eiddo personol. Roedd yn amlwg yn ddyn oedrannus erbyn hynny, gyda rhywun arall yn ffermio Tŷ Newydd.[4] Mae yna awgrym ei fod â chysylltiadau teuluol â theulu Bodfel, teulu o Lŷn a gododd yn y byd trwy briodas â theulu Robartes, Iarll Maesyfed, o Lanhydroc, Cernyw. Bu Tŷ Newydd yn rhan o ystad Bodfel pan fu John Bodfel farw, cyn i David Lloyd, gŵr bonheddig, (m.1669) a thaid Owen Lloyd yr hynaf, ei feddiannu.[5] Gŵr oedd y David Lloyd hwn i Lowri Glynn, un o Glynniaid Gwynfryn, ger Pwllheli.[6]

Er nad oedd ail fab Owen Lloyd yr hynaf, sef Hugh Lloyd ap Owen ap John Lloyd, o Lannor, â chysylltiad uniongyrchol ag Uwchgwyrfai, mae’n werth nodi ei fod wedi symud i Gaergybi, ac yn gweithio yno fel Casglwr Tollau’r borthladd.[7] Gwraig yr Hugh hwn oedd Elizabeth Williams, merch John Williams, un o’r teithwyr a foddwyd pan suddwyd Fferi Tal-y-foel ar y Fenai ym 1723; roedd hi'n gyfnither i William Jones, FRS, y mathemategwr enwog o Fôn. Yr oedd un o gefndryd Hugh hefyd yn swyddog tollau yn ardal Cwintre (Coventry) yn Lloegr, ac yr oedd Griffith Lloyd, ŵyr Owen Lloyd iau, sef gwrthrych yr erthygl hon, hefyd yn ecseismon.[8]

I ddychwelyd at Owen Lloyd iau, fe ymsefydlodd yn Nhan-y-bryn, Llanllyfni wedi iddo briodi â Mary Williams, merch Henry Williams (m.1690), yr apothecari o’r Erw-wen, Clynnog Fawr a’i wraig, Ellin. Ymddengys fod Ellin ei hun a’i merch wedi symud i Dan-y-bryn ar ôl colli ei gŵr, gan fod sôn amdani’n byw yn “Hendre Gwehelyth alias Tan-y-bryn” mewn gweithred ddyddiedig 1695.[9]

Nid yw dyddiad priodas Owen Lloyd a Mary Williams yn hysbys, ond roedd yn ddau wedi priodi ac yn byw ym Mhwllheli erbyn 1707 pan fu farw Ellin Williams.[10] Rhaid amau mai’r rheswm ei fod wedi symud i Bwllheli yn y lle cyntaf oedd ei fod wedi derbyn swydd fel swyddog tollau yno, gan ei fod wedi dilyn yr alwedigaeth honno mewn sawl man (fel y gwnaeth cymaint o'i deulu ar ei ôl). Yn sicr, roedd yn cyflawni'r gwaith erbyn 1708 pan gafodd ei benodi'n archwiliwr teithiol tollau halen Gorllewin Cymru, swydd a ddaliodd hyd at 1732 o leiaf.[11]

Mae’r uchod yn rhoi peth gwybodaeth am waith, cefndir a safle cymdeithasol Owen, ond mae’r ffeithiau pendant am ei fywyd pob dydd yn brin. Mor gynnar â 1700, ac yntau'n dal i fyw adref yn Llannor, roedd yn ddigon cefnog i roi morgais i grydd lleol,[12], ac ym 1723 cafwyd cofnod ei fod wedi rhoi benthyg swm o £26.[13] Roedd hefyd yn prynu ambell i eiddo, megis tai yng Nghaernarfon a thir yn Isalun, Llanbeblig o 1718 ymlaen.[14]. Mae lle i gredu fod llyfr cyfrifon a gedwid rhwng 1710 a 1717 ac sydd yn cynnwys cyfrifon yn ymwneud â Sarah Bodfel, Iarlles Maesyfed, a Robert Evans, Broom Hall, ymysg eraill, wedi ei gadw gan Owen Lloyd o Dan-y-bryn.[15] Mae hyn yn awgrymu iddo weithredu o bosibl fel asiant, cyfrifydd neu atwrnai o ryw fath i’r uchelwyr lleol. Yr un modd fe’i dewiswyd yn un o bedwar ymddiriedolwr ar ystâd Griffith David o Glynnog, gŵr bonheddig, yn ei ewyllys dyddiedig 1725. [16] Fodd bynnag, yn yr achos hwnnw, dichon fod rhyw gysylltiad teuluol, gan fod ei fam-yng-nghyfraith wedi gwerthu eiddo o’r enw Ynys Hwfa i Griffith David ym 1795.[17]

Nid oes modd dweud dim pendant am ei ddiddordebau na’i ffordd o fyw chwaith. Mae’n ddiddorol iawn, fodd bynnag, o gofio ei fod yn fab-yng-nghyfraith i’r apothecari Henry Williams, fod ganddo gysylltiadau â’r byd meddygol. Roedd Iarll Maesyfed yn enwog am ei ddiddordeb mewn meddygaeth. Mwy perthnasol, efallai, yw’r ffaith fod mab Owen, Richard Lloyd, yn enwi John Jones o Gaernarfon, apothecari, fel un o ddau ymddiriedolwr Tan-y-bryn - roedd Richard wedi symud yn ôl i hen gartref y teulu, sef Tŷ Newydd, Llannor [18], gan fod ei fam, gweddw Owen, yn dal i fyw yn Nhan-y-bryn hyd o leiaf 1756 ac yn bur debygol hyd at ei marwolaeth ym 1762. [19] Un peth y gallwn ei ddweud, beth bynnag, yw bod Owen yn ddyn oedd wedi derbyn addysg sylweddol a safonol, a barnu oddi wrth ei lofnod hyderus a chadarn - heb sôn am y ffaith ei fod wedi crybwyll ei lyfrau a'i bapurau yn ei ewyllys.

Daw ein prif wybodaeth am Owen, mewn gwirionedd, o'r hyn a welir yn ei ewyllys a’r rhestr o’i eiddo.[20] Yno ceir clywed am ddau fab, Richard a Henry Lloyd. Gadawodd £14 mewn arian i osod cerrig o farmor Sir Fôn ar fedd ei dad ym mynwent Llannor ac ar ei fedd ei hun. Ymysg y cymynroddion i’w ddau fab, ceir eitemau diddorol sy’n dyst i’w safon byw cymharol foethus: dau gloc haul yn Nhan-y-bryn, aur ac arian, eitemau wedi’u farneisio (“Japan ware”) a llestri teisennod, cist a roddwyd iddo gan y Fonesig Essex Robartes, a bariau haearn, clorian a phwysau. Tybed ai offer cyfrifo maint y tollau oedd yn daladwy ar nwyddau oedd y rheiny? Mae hefyd yn sôn am ddodrefn ym Mhwllheli (sy’n awgrymu ei fod wedi cadw ei swydd efo’r tollau yno), ac yn Nhan-y-bryn, yn ogystal ag ysgolion yn Nhŷ Newydd. Enwodd ei was Owen Williams a’i forwyn Mary Owen yn yr ewyllys hefyd.

Mae rhestr eiddo Owen a wnaed ar ôl ei farwolaeth yn tystio i’w cyfoeth. Roedd ganddo £500 rhwng ôl-ddyledion rhent, bondiau, benthyciadau ac ati, ac roedd stoc fferm Tan-y-bryn hefyd yn sylweddol: 16 o fuchod a tharw a oedd rhyngddynt yn werth £40; 12 ych gwerth £3 yr un; 33 o wartheg ifainc gwerth £47 i gyd; tua 120 o ddefaid gwerth £24; ŷd a gwair gwerth £35.12.10c; mochyn; gwerth £2 o offer amaethu; a dillad, cyfrwy a thresi gwerth £5 – tua £780 i gyd. Roedd hyn yn swm sylweddol dros ben yr adeg honno, hyd yn oed ar ôl cymryd i ystyriaeth yr arian a’r benthyciadau o £500.

Bu farw ddechrau Chwefror 1734, gan adael ei ddau fab a’i wraig Mary. Bu i honno ei oroesi am bron i dri deg o flynyddoedd.

Cyfeiriadau

  1. LlGC Cofnodion Profiant B/1734/64
  2. LlGC Cofnodion Profiant B/1714/47
  3. LlGC Llanfair a Brynodol D1035
  4. Cofnodion Profiant B/1727/144
  5. LlGC Llanfair a Brynodol D1034
  6. Cofnodion Profiant B/1669/66
  7. Gwefan Stirnet, [1], cyrchwyd 1/12/2025
  8. LlGC Cofnodion Profiant B/1773/ 105
  9. Archifdy Prifysgol Bangor PYAA, 2122-3
  10. LlGC Cofnodion Profiant B/1707/443
  11. Archifdy Caernarfon XM436/47, 75
  12. Archifdy Caernarfon XM436/10
  13. Archifdy Caernarfon XM436/67
  14. Archifdy Caernarfon XM436/58, 59, 62
  15. LlGC Broom Hall Cyfrol llysg. 3a
  16. LlGC Cofnodion Profiant B/1725/32
  17. Archifdy Prifysgol Bangor PYAA 2122-5
  18. LlGC Cofnodion Profiant B/1773/105
  19. LlGC Cofnodion Profiant B/1762/149
  20. LlGC Cofnodion Profiant B/1734/64