Pennarth (fferm)
Fferm fawr yw Pennarth sydd yn gorwedd ar y tir gweddol isel a gwastad ger Aberdesach, ym mhlwyf Clynnog Fawr. Mae'r enw'n hen iawn, a'r safle, efallai, yn hŷn fyth, gan fod cromlech ar y tir. Sonnir am Bennarth hefyd yn y Mabinogion. Yn Oes y Tywysogion, roedd Pennarth yn enw ar drefgordd gyfan - ac fel sy'n bod yn aml, mae enw trefgordd ganoloesol wedi parhau hyd heddiw fel enw fferm sylweddol. Gweler erthygl ar wahân ar Pennarth (trefgordd).
Mae'n debyg, a barnu oddi wrth y ffaith fod enw'r fferm ac enw'r drefgordd lle safai yr un peth, fod Pennarth wedi arfer bod yn annedd ac yn ddaliadaeth o dir gan ddyn rhydd, os nad mân uchelwr, yn y 15-16g. Erbyn 1675, fodd bynnag, mae'n amlwg ei fod yn rhan o Ystad Lleuar, ac yn eiddo i deulu George Twisleton[1], a etifeddodd ei diroedd o ganlyniad i'w briodas â Mary Glynne, etifeddes cangen o hen deulu Glynllifon.[2] Er i deulu Twisleton golli'u gafael ar y rhan fwyaf o'u tiroedd oherwydd dyledion a chyfres o forgeisi ac achosion llys, ymddengys eu bod wedi dal eu gafael ar nifer bach o ffermydd, yn cynnwys Pennarth, Ynys yr Arch, Bryn Ifan a Chae Hir. Fe ymddengys fod Mary Ridsdale, aeres yr olaf o deulu Twisleton, sef George Twisleton III, wedi cadw ei gafael ar weddillion ystad Lleuar. Bu iddi ail-briodi â dyn o'r enw Henry Winstanley, masnachwr o ddinas Caer, ym 1758.[3] Yr adeg honno, Owen Roberts, iwmon, oedd yn ffermio Pennarth.[4] Ysywaeth, y flwyddyn wedyn aeth Winstanley'n fethdalwr, ac o ganlyniad i hynny fe wnaeth y Comisiynwyr Methdaliad orchymyn gwerthu'r ffermydd hyn, yn cynnwys Pennarth. Watkin Williams, Ysw., o Benbedw, Sir Dinbych a wnaeth brynu'r eiddo i gyd, am £2,445, a hynny ym 1768, gyda help morgais o £2000.[5] Roedd Watkin yn fab i Richard Williams (a hwnnw'n frawd i'r "Syr Watcyn" cyntaf a etifeddodd Wynnstay, un o ystadau mwyaf Cymru),[6]. Roedd gan Ystad Wynnstay diroedd eraill yn Sir Gaernarfon yn ardaloedd Llanbeblig, Llanrug a Beddgelert,[7] a dichon felly fod hynny wedi gwneud prynu gweddillion Ystad Lleuar yn ddeniadol. Bu farw Watkin yn ddi-blant, ac felly aeth ei ystad i'w chwaer, Annabella Puleston, ac wedyn i ferch honno, Annabella, gwraig Syr Edward Lloyd Lloyd, Pen-y-lan, Sir y Fflint. Gwerthwyd y rhan fwyaf o eiddo y llinach rhwng 1825 a 1830, ond nid yw'n hysbys pryd y gwerthwyd gweddillion Ystad Lleuar.[8]
Er bod Syr Edward Lloyd Lloyd a Thomas Bucknall Lloyd yn rhannu'r un cyfenw, mae'n bur annhebygol fod unrhyw gysylltiad gwaed rhyngddynt, gan fod Thomas Lloyd yn perthyn i hen deulu a oedd wedi ymsefydlu yn Amwythig ers cenedlaethau, a'i daid, Thomas Lloyd (1759-1829) yn dwrnai ac yn faer Amwythig ym 1810. Roedd y teulu wedi bod yn byw yn Amwythig ers diwedd y 16g., pan nodir fod John Lewis Lloyd, hen-hen-hen-hen-hen-hen daid Bucjnall Lloyd yn un o fwrdeiswyr y dref.[9] Roedd Thomas Bucknall Lloyd (1824-1896) yn Archddiacon Salop, ac nid yw'n amlwg beth oedd ei gysylltiad â Sir Gaernarfon. Rhaid ystyried felly ei fod wedi prynu'r pedair fferm fel buddsoddiad. Ffaith diddorol amdano oedd ei fod yn ŵyr i Samuel Butler, Esgob Caerlwytgoed, ac yn gefnder llawn i'r nofelydd Saesneg Samuel Butler, awdur Erewhon. Treuliodd ei holl fywyd yng nghyffiniau Amwythig.[10] Esboniad mwy tebygol am i Bucknall Lloyd brynu'r ystad yw'r ffaith ei fod o a theulu Lloyd Lloyd yn defnyddio'r un cwmni o dwrneiod yn Amwythig.[11]
Mae'r map degwm yn dangos fod y pedair fferm wedi dal fel ystad fechan gyda'i gilydd hyd at ddyddiau'r map degwm tua 1843. Nodir yn y rhestr bennu'r degwm fod y fferm yn oddeutu 151 o aceri.[12] Thomas Bucknall Lloyd ysw. oedd y perchennog erbyn hynny, a thenant Pennarth yn ôl y ddogfen honno oedd un John Jones. Mae'n debyg mai ymddiriedolwr y sawl yn byw ym Mhennarth ac yn ffermio'r tir oedd John Jones, sef ewyrth bachgen tua 17 oed, Hugh Owen, na fyddai'n gymwys i fod yn denant swyddogol. Rhaid felly droi at hanes teulu Oweniaid Pennarth i gael eglurhad o'r sefyllfa. Trwy lwc mae cyfres o ewyllysiau ar gael, ynghyd â nifer o restrau eiddo'r fferm yn ystod hanner cyntaf y 19g. sydd yn datgelu cryn dipyn am hanes y fferm a'i thenantiaid.
Mae'n sicr fod teulu Owen wedi bod yn ffermio Pennarth ers dechrau'r 19g., os nad ynghynt. Mae ewyllys Thomas Owen, Pennarth, dyddiedig 1804[13] yn dystiolaeth ei fod yn denant Pennarth ac yn ddi-briod, ond gyda brodyr, Griffith a Hugh a chwaer, Elizabeth. Dyn llythrennog ydoedd, a barnu oddi wrth ei lofnod mewn llawysgrifen hyderus. Erbyn 1829, pan wnaeth ei fab Hugh Owens ei ewyllys yntau, roedd yn amlwg yn denant ar y fferm (ac yn berchennog ar fferm Derwin Bach ar ffin Eifionydd).[14] Nid yw'n sicr beth a ddigwyddodd i'w frawd Griffith, ond mae'n bosibl ei fod wedi sicrhau tenantiaeth fferm Maesog yn yr un plwyf, lle bu gŵr o'i enw ef farw ym 1829 hefyd. Roedd perthynas da rhwng teulu Griffith a Hugh Owen, Pennarth, o leiaf, gan fod hwnnw'n un o briswyr yr eiddo, a hyn yn cryfhau'r tebygrwydd mai brodyr ioeddynt.[15]
Pan fu farw, gadawodd Hugh Owens hanner stoc y fferm i'w fab Richard Hughes (sylwer fod y teulu wedi dychwelyd at system patronymig o ran cyfenw), a hanner i'w wraig Eizabeth a'i ferch ddi-briod, hefyd o'r enw Elizabeth Hughes - a chymynroddion i'w tair merch arall. Roedd ei eiddo yn werth £356.8.6c i gyd, ac mae'n werth nodi cynnwys y rhestr eiddo'n fanwl. Codied mai ym Mis Mai y gwnaethpwyd y rhestr, ar adeg pan fyddai'r gwair a'r ŷd wedi eu ysbyddu i raddau helaeth.
Dillad, cyfrwy a ffrwyn £5.10.0c 6 cheffyl £42.0.0c 12 buwch â chyrn £84.0.0c 16 bustych a heffrod â chyrn £83.0.0c 10 llo blwydd £30.0.0c 2 gert £10.0.0c Erydr, ogau ac offer amaethu £8.18.0c 6 mochyn @ £1.10s yr un £9.0.0c 120 o ddefaid yn ôl 6s yr un ar gyfartaledd £36.0.0c Dodrefn y tŷ a'r llyfrau £40.10.0s Ieir £0.10.0c Gwair £6.10.6c
Ysywaeth, byr fu tenantiaeth Richard Hughes, gan mai ym 1834 y bu yntau farw, gan adael dau blentyn ifanc, Margaret Hughes a Hugh Owens, hwnnw ond tua 8 oed. Roedd ei fam ac un o'i chwiorydd wedi etifeddu hanner eiddo ei dad yn ystod eu hoes, ac nid syndod felly yw darllen yn rhestr o'i eiddo fod stoc y fferm ond hanner yr hyn a fu gan ei dad. Serch hynny, mae'r ffaith fod y rhestr wedi ei llunio ddiwedd Chwefror y flwyddyn honno, mae modd cael argraff o faint y ffermio tir âr a fu ym Mhennarth. Roedd ganddo gwerth £8 owair a gwerth £14 o ŷd yn ei ysgubor.[16]
Yn coachhouse Pennarth y cynhelid cyfarfodydd Cymdeithas Amaethyddol Clynnog 1909-46 y ceir ysgrif lawn amdani yn Cof y Cwmwd.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
- ↑ Archifdy Caernarfon, XD2/7574
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.270
- ↑ Archifdy Caernarfon, XM1041/8, 15
- ↑ Archifdy Caernarfon, XM1041/12
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM1041/19-30
- ↑ J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t.18
- ↑ Archifdy Caernarfon, XM1041/31-55
- ↑ LlGC, Rhagair i gatalog Archifau Peniarth [1], cyrchwyd 18.9.2025
- ↑ Transactions of the Shropshire Archaeological and Natural History Society, Cyfres 4, Cyfrol XI, Rhan 1 (1923), t.9; Gwefan The Peerage, t.49943 [2], cyrchwyd 22.9.2025
- ↑ Erthygl Wikipedia am Thomas Lloyd (priest), [3], cyrchwyd 17.9.2025
- ↑ Archifdy Gwynedd, XM1041/passim. Byddai twrneiod yn argymell buddsoddiad addas i'w cleientiaid.
- ↑ LlGC, Map a rhestr bennu'r degwm, plwyf Clynnog
- ↑ LlGC, Dogfennau Profiant B/1809/46
- ↑ LlGC Dogfennau Profiant B/1829/74
- ↑ LlGC Dogfennau Profiant b/1829/73
- ↑ LlGC Dogfennau Profiant B/1834/63