R. Hughes Jones (Pencerdd Llifon)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:39, 3 Mawrth 2025 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cerddor o Garmel oedd R. Hughes Jones, a adweinid fel Pencerdd Llifon. Roedd yn boblogaidd fel cyfeilydd mewn cyfarfodydd adloniannol, yn ogystal ag yn ei gapel, sef Capel Carmel (MC), a bu'n arwain Côr Carmel.

Priododd â'r gantores Moelwyn Jones ar ddechrau 1918.[1]

Ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, canodd un Richard Jones (dichon ei fod yn filwr ar ei ffordd i'r rhyfel) gerdd i Bencerdd Llifon. Mae hi'n ddarlun o'r amseroedd ansicr yn y wlad ac ym myd cerdd:

PENILLION Cyflwynedig i Pencerdd Llifon, Carmel.
Do, fe welais ar fy llythyr 
 Dy lawsygrif, gyfaill llon, 
Ac 'roedd hynny, fel y gwyddost, 
 Yn creu hiraeth dan fy mron 
'Rwyt am ddyfod eto i ganu 
 Y Nadolig, medda ti, 
Na, hen ffrindiau, y mae amser 
 Wedi newid gyda ni. 
Wyt ti'n cofio fel y byddai'r
  Cor yn canu fel un llu, 
Dan d'arweiniad, Bencerdd Llifon, 
 "Hafaidd Nos" ac "Enaid Cu", 
A "Gwnaed concwest ar Galfaria," 
 "Ffarwel iti, Gymru fad," 
Nes y byddai creigiau Cilgwyn 
 Yn adseinio mewn mwynhad. 
Canu'r nos, a chanu'r bore, 
 Fuom gynt yng Nghymru wen, 
Ac fe genir eto yno 
 Tra bo'r Wyddfa uwch ei phen 
Er i dywyll amgylchiadau 
 Yrru'r plant i estron dir, 
Cofio'r gân, y mawl, a'r weddi, 
 Ganddynt wneir am amser hir. 
Ond gobeithiwn y daw dyddiau 
 Difyr eto, megis cynt; 
Pan y gwelir meibion Gwalia 
 Wedi dychwel ar eu hynt; 
Ac y ffu'r cymylau duon 
 'Nawr sy'n hofran uwch ein pen, 
Pan y clywir cân a moliant 
 Eto'n nghymoedd Cymru Wen. 
RICHARD JONES. Stubshaw Cross, Ashton-in-Makerfield[2]


Cyfeiriadau

  1. Y Dinesydd Cymreig, 9.1.1918, t.5
  2. Y Dinesydd Cymreig, 23.12.1914, t.2