Eisteddfod Pen-y-groes 1871
Cynhaliwyd Eisteddfod ynm Mhenygroes fis Ebrill 1871 ar raddfa lawer mwy na'r eisteddfodau arferol a gynhelid mewn capeli. Roedd pafilwin canfas wedi ei godi gyda lle i ryw 4000 o bobl. Denwyd cynulleidfaoedd mawrion trwy'r dydd,. a gorfennwyd trwy gynnal cyngerdd gyda'r nos. Bu nifer o gystadleuwyr pur amlwg yn cael eu henwi yn yr adroddiadau. Llwyddwyd i sicrhau bod yna lywyddion ac arweinwyr safonol iawn hefyd. Dichon na ellid gwneud yn well na dyfynnu'r adroddiad am yr eisteddfod nodedig hon, sef adroddiad a ymddangosodd yn Y Goleuad[1]:
- ↑ YGoleuad, 15.4.1871, t.9