Liz Saville Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:53, 17 Medi 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Etholwyd Liz Saville Roberts (ganed 1965) yn aelod seneddol San Steffan dros etholaeth Dwyfor Meirionnydd yn 2015, a hynny dros Blaid Cymru. Y adeg honno roedd yr etholaeth ond yn cynnwys y ddwy gymuned mwyaf deheuol yn Uwchgwyrfai, sef Llanaelhaearn a Chlynnog Fawr. Cyn ei hethol yn aelod seneddol, bu'n arweinydd Cyngor Gwynedd yn enw Plaid Cymru, ac yn gynghorydd sirol dros Ward Morfa Nefyn.

Yn 2024, gyda newid yn ffiniau'r etholaethau, symudwyd cymunedau eraill Uwchgwyrfai, sef Llandwrog, Llanllyfni a Llanwnda, i etholaeth Dwyfor Meirionnydd. Hi bellach yw'r aelod seneddol yn San Steffan dros Uwchgwyrfai gyfan felly. Ers 2017, hi yw arweinydd seneddol Plaid Cymru. Mae hi'n nodedig fel un a ddysgodd y Gymraeg yn gwbl rugl, ac am fentro ei siarad hi yn siambr y Snedd - yn ogystal â siarad yno trwy'r Wyddeleg.

Cyn ymroi'n llawn amser i wleidyddiaeth, bu'n gweithio ym maes addysg bellach Cymraeg. Cafodd ei geni yn Eltham, Llundain, a'i haddysgu ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ganddi hi a'i gŵr Dewi Roberts ddwy ferch.[1]

Cyfeiriadau

  1. Wicipedia, erthygl ar y gwrthrych.[1], cyrchwyd 31.7.2024