Mount Hazel

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:48, 6 Mehefin 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Mount Hazel heddiw

Saif plasty Mount Hazel ym mhlwyf Llandwrog, nid nepell o dreflan Tŷ'nlôn. Collfryn Bach oedd hen enw'r tŷ a'r ystâd fechan oedd ynghlwm wrtho, a dichon bod rhyw berchennog wedi teimlo fod yr enw hwnnw'n rhy israddol i eiddo a dyfodd yn blasty! Roedd yr enw wedi ei sefydlu erbyn dechrau'r 19g., pan oedd Thomas Lewis, yswain (Casglwr Trethi Caernarfon) a'i deulu'n byw yno.[1]

Cafodd Thomas Lewis bedair o ferched ac un mab, y Parch. Glynn Bodvel Lewis, a fu farw ym 1832, gan adael ei eiddo i'w ferch Mary. Priododd honno ym 1836, gan osod y tŷ a'r tir. Ym 1839, roedd Hugh Jones yn denant, a'r eiddo yn perthyn i'r Parch David Hanmer Griffith, ficer Tregatwg ger Castell Nedd, a hanai o Gaernarfon ac a oedd wedi priodi Mary Bodvel Lewis, wyres Thomas Lewis;[2][3] ac erbyn 1856, roedd yr eiddo wedi ei osod i John Owen, amaethwr o Mount Hazel.[4]

Pan werthwyd yr ystad ym 1882 gan Jane (merch-yng-nghyfraith Thomas Lewis a mam-yng-nghyfraith David Hanmer Griffith),[5] roedd yr ystâd yn cynnwys nifer helaeth o ffermydd a gwahanol eiddo - Cae Llywarch, Mount Hazel, Tŷ ucha, Caellidiart ucha, Rallt, Tirion Twrog, Caeffridd, Tŷ bach, Taigwynion, Glanymorfa and Lleiniau ym mhlwyf Llandwrog yn unig,(ac a werthwyd i Ystad Glynllifon[6] ac eiddo hefyd ym mhlwyfi Llanwnda, Carnguwch, Llannor, Pistyll, Edern a Denio (sef Pwllheli).[7]

Wedi i'r eiddo fynd yn rhan o Ystâd Glynllifon, bu llawer o ailadeiladu ac ehangu ar y plasty, rhwng 1904 a 1928.[8] Honnir fod y 10fed Arglwydd Newborough wedi ei eni yn y plasty. Erbyn heddiw, mae'r tŷ yn cael ei osod i bartïon mawr o ymwelwyr. Mae wedi ei foderneiddio ymhellach ac mae 8 o lofftydd yno.[9]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Gwynedd X/Poole/3321
  2. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.176.n
  3. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map Degwm Llandwrog [1]
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Ewyllysiau Bangor B/1856/104.
  5. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Carnarvonshire Families, (Horncastle, 1914), t.176.
  6. Archifdy Gwynedd XD2/8572.
  7. Archifdy Gwynedd XD2/6666.
  8. Archifdy Gwynedd XD2/11807-17.
  9. Gwefan Group Accommodation.com [2], cyrchwyd 10.6.2019