Bryn Beddau, Llanwnda

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:42, 5 Mehefin 2024 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae annedd Bryn Beddau mewn man diarffordd rhwng Y Bontnewydd a'r Waunfawr. Yn nhrafodion Y Trysorlys am 1607-08 cyfeirir ato fel bryn beythe. Ym 1629 ceir y ffurf Kae Brynbedde (Casgliad Baron Hill, Prifysgol Bangor). Yno dywedir mai'r un lle yw hwn â llayn fadog ap harry, a bod y tir ar y pryd yn perthyn i fferm o'r enw Kae Mawr yn Llanwnda. Ceir fferm o'r enw Cae Mawr nid nepell o Bryn Beddau heddiw. Efallai mai'r un dyn oedd Madog ap Harry â'r Madoc ap Harry ap Thomas ap David o Lundain y ceir cofnod o'i nw yn nhrafodion y Llys Siawnsri gan iddo fod yn achwynydd mewn achos ynglŷn ag eiddo yn nhrefgordd Dinlle rhwng 1556 a 1558.

Arhosodd y ffurf Bryn Beddau yn weddol gyson drwy'r blynyddoedd. Un esboniad posib ar yr enw yw fod y meini a geir yno yn olion clwstwr o gytiau hynafol a bod y trigolion lleol wedi eu camgymryd am gerrig beddau cyntefig. Fe ddarganfuwyd olion corfflosgiad ar y safle, sydd ar gopa bryncyn isel.[1], (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.46.

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd