Bryn Pipion

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:48, 24 Ebrill 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Cyfeirir at gae o'r enw Bryn Pibor mewn dogfen a luniwyd ym 1556 (Casgliad Newborough, Glynllifon) ond ni nodir ei leoliad. Fodd bynnag, yn Rhestr Pennu'r Degwm plwyf Llandwrog ym 1842 cofnodir cae o'r enw Bryn pipion ar dir Garth. Mae'n debyg mai'r un enw, y naill yn unigol a'r llall y lluosog, sydd yn ail elfen y ddau gofnod uchod. Cynigir mai pibwr, sef 'pibydd', sydd yng nghofnod 1556. Ceir sawl enghraifft o pibwr mewn enwau lleoedd yn Ne Cymru - Sir Gaerfyrddin yn bennaf - ond pibydd fyddai'r ffurf fwy arferol yng Ngogledd Cymru. Anodd yw esbonio'r ffurf pipion - gall fod yn llurguniad neu gywasgiad o pibyddion - y pibwr gwreiddiol wedi cynhyrchu teulu o bibyddion dros amser efallai. Prin yw'r cyfeiriadau at gerddorion mewn enwau lleoedd yn rhan orllewinol yr hen Sir Gaernarfon. [1]

Cyfeiriadau

  1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.50-1.