Glesni Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:02, 30 Mawrth 2024 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Glesni Jones yn arweinydd Parti Lleu o 1977 hyd at ddechrau’r ganrif bresennol. Ganwyd a magwyd hi yn Llanuwchllyn, yn ferch i Einion Edwards, Tyddynronnen, datgeinydd cerdd dant poblogaidd ac aelod o Gôr Godre’r Aran o’r dechrau. Mae hi wedi cartrefu yn Llandwrog ac yn briod ag Osborn Jones. Fe'i hyfforddwyd yn athrawes a'i swydd gyntaf oedd athrawes Cerdd mewn ysgol gynradd yn Llandudno - swydd anarferol gan fod athrawon ysgolion cynradd fel arfer yn ymwneud â phob pwnc. Wedi iddi ymgartrefu yn Llandwrog bu'n gweithio am gyfnod i'w phriod, Osborn Jones, yn y Felinheli.

Daeth cryn lwyddiant i Barti Lleu yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru dan ei harweiniad. Fe’i sefydlwyd gan Carys Puw Williams i gystadlu yn Eisteddfod Cricieth a’r Cylch yn 1975 ond a roddodd y gorau iddo pan ymgymerodd ei gŵr, y Parchedig Meurwyn Williams, â gofal eglwys arall yng Nghaerdydd. Cymerwyd awenau’r Parti gan Glesni, gan ddod i’r brig ar y gystadleuaeth i bartïon cerdd dant yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caernarfon yn 1979. Bu 1980 a 1981 yr un mor llwyddiannus gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn gyson o hynny ymlaen. Bu’n cystadlu hefyd yn yr Ŵyl Cerdd Dant o’r wyth degau ymlaen gan ddod i’r ail neu drydedd safle yn bur aml. Yn y naw degau roedd y Parti wedi datblygu’n gôr – Côr Arianrhod – ac o dan arweiniad Glesni daethant i’r drydedd safle yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru 1997 a’r ail safle yn 1999.[1]

Cyfeiriadau

  1. Allan o Aled Lloyd Davies, Canrif o Gân, Cyfrol 2: Datblygiad Cerdd Dant ym Môn, Arfon, Llŷn ac Eifionydd, Maldwyn a De-orllewin Cwm Tawe a'r De-ddwyrain, (Cymdeithas Cerdd Dant Cymru), 2000; a gwybodaeth bersonol.