Odyn galch a Bwthyn y Foryd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:58, 19 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Odyn Galch a Bwthyn y Foryd rhyw filltir a hanner i'r gorllewin o Lanwnda ar lan orllewinol Afon Gwyrfai, lle mae'n ymuno â bae'r Foryd. Ceir odynau calch eraill ar arfordir Uwchgwyrfai (megis yr un led cae o'r traeth rhwng Clynnog Fawr ac Aberdesach) ond mae odyn y Foryd yn enghraifft brin o un wedi'i hadeiladu ar lan afon lanwol (afon y mae llanw a thrai'n effeithio arni). Dim ond ar adegau pan oedd y llanw i mewn y gellid dod â chalch i'r odyn hon gan fod bae'r Foryd yn wag o ddŵr ac yn fwd trwchus ar drai. Yn gysylltiedig â'r odyn adeiladwyd bwthyn (ar gyfer ei cheidwad mae'n fwy na thebyg) ac mae hwn yn dŷ o hyd ac wedi'i helaethu. Mae muriau'r odyn yn dal i sefyll yn uchel gyda pharapetau crenelog iddynt.

Roedd yr odyn yn weithedol erbyn 1814 os nad llawer ynghynt - gan fod cyfrifon y sawl oedd yn rhedeg yr odyn (sef Richard Parry, Plas Llanwnda ar gael am 1814-15.[1]

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Prifysgol Bangor, Llsgrau. Porth-yr-aur 6829 (11)