Bodryn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:07, 14 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fferm tua hanner ffordd rhwng Llandwrog a Dinas Dinlle yw Bodryn. Fodd bynnag, hyd yn gymharol ddiweddar yr ynganiad lleol oedd Modryn. Mae Glenda Carr wedi dilyn hynt yr enw yn ôl cyn belled â Chalendr y Rholiau Patent ar gyfer 1549, pryd y cofnodwyd yr enw fel Tythyn Modryn. Modryn a geir hefyd yn asesiad y Dreth Dir drwy'r 1770au ac yng Nghyfrifiad 1851. Rhestra Dr Carr nifer o ddamcaniaethau a gynigiwyd ynghylch ystyr yr enw, ond mae hi o'r farn mai yn y ffurf gynnar o 1549 y datgelir ystyr yr enw. Dilynir yr elfen tyddyn yn aml gan enw personol ac mae'n debygol iawn mai enw personol oedd Modryn hefyd, a bod troi'r M gychwynnol i B yn gymharol ddiweddar wedi cymylu'r ystyr. Modryn oedd y ffurf am ganrifoedd, pwy bynnag oedd y gŵr hwnnw a oedd yn ddeiliad gwreiddiol yr eiddo.1

Cyfeiriadau

1. Am ymdriniaeth lawn gweler, Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), tt.34-5.