Gwenllian Jones
Llenor a bardd oedd "Gwenllian Jones". Ganwyd yn Nhrefor 8 Medi 1940. Mynychodd ysgolion Trefor, Ysgol Ramadeg Pwllheli, a phrifysgolion Abertawe a Bangor. Priododd hogyn o Drefor, John Rowlands, Gwydir Mawr, a'i ddilyn o i bedwar ban byd wrth iddo ddilyn ei alwedigaeth fel Cynllunydd Trefol gyda'r Cenhedloedd Unedig i wledydd a oedd yn datblygu yn ail hanner yr ugeinfed ganrif. Dychwelodd Gwenllian i fyw yng Nghaernarfon yn 1985, er mwyn i'r plant Dafydd a Lora dderbyn addysg Gymraeg. Enillodd hi'r Fedal Ryddiaeth yn Eisteddfod Món am gyfrol a oedd yn 'addasiad o dyddlyfr a llythyrau' a sgwennodd hi tra'n byw yn Bangladesh. Cyoeddwyd y gwaith fel cyfrol 'Llythyrau Bangladesh' yn 1998. Hoff gyfrwng ysgrifennu Gwenllian yn y blynyddoedd diweddar oedd barddoniaeth, ac mi drodd yn ol at ei theithiau a phrofiadau tramor am lawer o'i hysbrydoliaeth. Ond ysgrifennodd hefyd am Gymru, ei hanes, a'i hargyfwng, mewn arddull ffres, gwahanol . e.g. yn ei cherdd 'Amos Jós a chri'r fór-forwyn' gwelwn dranc y Gymraeg mewn darlun graffeg :
Rwyn'n mygu, rwy'n marw, mae'r holl fyd yn rhy hallt! Rwy'n colli cywyddau a'u cynghanedd o'm gwallt. Holl sglein wedi darfod, A minnau'n fy nghardod Yn marw'n rhy gyflym, Amos Jós Yn rhy gyflym o lawer, Amos Jós. [1]
Cyhoeddwyd unig gyfrol o farddoniaeth Gwenllian ym mis Awst 2019 . Ei brawd , Geraint Jones, oedd yn gyfrifol am olygu a llywio'r gyfrol trwy'r wasg. Cafwyd noson lansio yng Nghanolfan Hanes Uwchgwyrfai, a phlesiwyd Gwenllian gan ymateb y cyhoedd i'r gyfrol.
Bu farw Gwenllian yn Ysbyty Gwynedd ym mis Mawrth 2020 yn 79 oed, un o'r llawer a drechwyd gan pandemig Covid.
Er iddi adael bro'r Eifl yn ddeunaw oed, mae ei chariad i'r fro yn disgleirio yn ei cherdd serch, ' Hiraeth'
Hiraeth
Does neb all gofio'r geiriau ond y chdi, Does neb all gofio'r Hendra ond y chdi; Haul hwyrnos ar y Clogwyn, A Cherrig Mawr y Gorllwyn Nant Mawr yn llawn o rhedyn I ti a mi.
==cyfeirnod Cerddi Gwenllian ==Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref>
ar goll ar gyfer y tag <ref>
</ref>
- ↑ Cerddi Gwenllian