Cilhaul
Mae Cilhaul yn fferm fechan ym mhlwyf Llanwnda ger glannau Afon Gwyrfai, nid nepell o Bont Cyrnant. Mae'n debyg mai cyfeirio at ei lleoliad ar lethr goediog yn wynebu'r Gogledd y mae'r enw, gan nad yw fel rheol yn llygad yr haul. Arferai fod yn rhan o eiddo Gwredog, rhwng Gwredog Bach a Gwredog Uchaf. Roedd yn rhan o ystad Henry Rumsey Williams yn y 19g. nes iddi gael ei gwerthu, ar y cyd â Gwredog Bach, ym 1871.[1] Cafodd Cilhaul ei ffermio gan denant, sef Griffith Ellis, Cilhaul ac wedyn ei fab, Griffith Ellis arall, bron gydol y 19g. Rhwng y ddwy fferm, roedd tua 75 erw o dir. Roedd Griffith Ellis y tad yn enwog trwy Ogledd Cymru fel un a oedd yn gallu "witsio".
Cyfeiriadau
- ↑ Y Goleuad, 26.8.1871, t.14