Cymdeithas Erlyn Troseddwyr Caernarfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:15, 18 Tachwedd 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Cymdeithas Caernarfon ar gyfer Erlyn Troseddwyr (neu’r Carnarvon Association for the Prosecution of Felons) cyn 1811 a bu’n weithredol tan o leiaf 1825.

Cyn i bob sir orfod sefydlu Heddlu Sirol ym 1856, roedd y drefn ar gyfer dal a chosbi troseddwyr yn ddiffygiol, yn gostus, ac yn dibynnu i raddau helaeth ar i’r dioddefwr erlyn y rhai a droseddodd yn ei erbyn. Byddai rhywun oedd â chwyn yn erbyn troseddwr yn gorfod mynd at ynad heddwch a gwneud datganiad. A bwrw bod hwnnw’n gweld bod y mater yn gofyn am weithredu pellach, byddai’n cyhoeddi gwarant i’r cwnstabliaid lleol arestio’r drwgweithredwr. Swyddogion plwyfol di-dâl oedd y dynion hyn, ac yn aml roeddent yn gweithredu’n anfoddog ac yn aneffeithiol. A bwrw eu bod yn gallu dod o hyd i’r troseddwr honedig, y drefn oedd iddynt ei lusgo o flaen yr ynad, a byddai hwnnw naill ai yn ei drosrwymo (neu ei “feindio drosodd”) i gadw’r heddwch tuag at y sawl oedd yn ei gyhuddo, neu ei anfon ymlaen i sefyll ei brawf yn y Llys Chwarter, a hynny ar fechnïaeth, oni bai bod y drosedd yn ddifrifol. Mewn achosion difrifol, byddai’r cyhuddedig yn cael ei gadw yn y carchar sirol tan ddyddiad y llys.

Erbyn dechrau’r 19g, roedd mwy a mwy o weithwyr diwydiannol yn symud o le i le, a milwyr yn dod adref o ryfeloedd Napoleon hefyd gan arwain at gymdeithas llai sefydlog. Lle gynt y bu pobl yn gaeth i’w tir, yn awr roedd llawer o bobl yn symud o le i le er mwyn dod o hyd i waith. Mewn cymdeithas o’r fath, roedd troseddu’n tueddu i gynyddu, a chyda phoblogaeth fwy symudol, anos nag o’r blaen oedd gweithredu’r hen system o erlyn a ddibynnai’n helaeth ar wybodaeth leol am bobl yr ardal. Fel y cynyddai’r broblem o gadw troseddu dan reolaeth, ffurfiwyd cymdeithasau gan ysgwieriaid a masnachwyr i dalu am gyfreithwyr i erlyn drwgweithredwyr, ac i wobrwyo’r rhai a oedd yn fodlon tystio yn eu herbyn. Dichon mai canolbwyntio ar droseddau a effeithiai ar eu haelodau a wnai'r cymdeithasau hyn, ond roeddent yn bur effeithiol. Cyfrinach y system oedd ei bod yn bur lleol ei naws. Dywedir bod hyd at 4000 o’r cymdeithasau hyn wedi cael eu ffurfio rhwng 1750 a 1850 ar draws Cymru a Lloegr.[1] Yng ngogledd-orllewin Cymru, cafwyd cymdeithasau yn Llŷn ac Eifionydd, Llanrwst, Creuddyn, Bangor a Chaernarfon.[2]

Diben y cymdeithasau oedd annog pobl i roi gwybodaeth a fyddai’n arwain at ddal rhai a droseddai'n bennaf yn erbyn person neu eiddo’r aelodau eu hunain. Nid oeddent felly’n gyrff cyhoeddus a ddeuai â budd i bawb trwy eu hamddiffyn pwy bynnag y bônt, er, wrth gwrs, byddai erlyn unrhyw ddrwgweithredwr a’i garcharu’n golygu y byddai un yn llai i boeni pawb. Mewn ffordd felly roedd y cymdeithasau hyn yn fath o gynghrair yswiriant: pawb yn talu tanysgrifiad i greu cronfa i dalu gwobrau i dystion (a thrwy hynny'r gobaith oedd cadw rhai drwg draw yn y lle cyntaf), er i hynny yn ei dro dueddu i achosi i ddrwgweithredwyr weithredu yn erbyn y sawl nad oedd yn aelod o’r gymdeithas.

Sefydlwyd Cymdeithas Caernarfon rywbryd cyn 1811 pan ymddangosodd yr hysbyseb yn y wasg leol. Nid oedd dim arbennig yn perthyn i Gymdeithas Caernarfon hyd y gwyddys, ond bu’n ceisio gweithredu ar sail ystod eang o droseddu, gan annog y cyhoedd i dystio yn erbyn y rhai drwg yn eu mysg. Fel y gwelir o’r toriad papur newydd o’r North Wales Gazette ar y dudalen hon, roedd gwobrau’n hael ac yn amrywio yn ôl difrifoldeb y drosedd.[3]

Yn y flwyddyn 1815, cyhoeddwyd enwau’r aelodau yn y papur. Roedd yr aelodaeth yn cynnwys 28 o ddynion blaenllaw tref Caernarfon, ynghyd â thri o blwyfi Llandwrog a Llanfair Isgaer; dau o blwyfi Clynnog Fawr a Llanrug; ac un o Landdeiniolen. Dau blwyf o’r pump yn Uwchgwyrfai oedd yn cael eu cynrychioli ymysg yr aelodau, ac felly’n cael rhywfaint o fudd o weithgareddau’r gymdeithas. Yr aelodau o blwyf Llandwrog oedd, Thomas Lewis, ysw., John Griffith, ysw., a’r Parch. William Griffith, ficer y plwyf. Y Parch. Hugh Williams, ficer y plwyf, a Hugh Rowlands, ysw. oedd yr aelodau o Glynnog Fawr.[4]

Roedd elfen o gymdeithasu yn perthyn i’r Gymdeithas. Cynhelid cyfarfod blynyddol yn un o westai’r dref bob gwanwyn – fel rheol yng Ngwesty’r Afr – a byddai’r aelodau’n cael cinio cyn mynd ati i ymdrin â busnes y cyfarfod. Os nad oedd aelod yn bresennol, mynnid iddo dalu dirwy o 2s.6c.

Nid oes tystiolaeth gadarn o ba mor effeithiol oedd y Gymdeithas, yn arbennig yn ardal wledig Uwchgwyrfai, ond mae'r ffaith iddi barhau am o leiaf 15 mlynedd ar ôl 1810, sef hyd 1825[5] - hyd y gwyddom ni o’r hysbysebion a ymddangosodd bob blwyddyn yn y papur newydd - yn awgrymu ei bod yn llwyddo i gadw troseddu dan ryw fath o reolaeth.

Cyfeiriadau

  1. Mae hanes cyffredinol y Cymdeithasau ar gyfer Erlyn Troseddwyr i’w gael yn Mark Koyama, Prosecution Associations in Industrial Revolution England: Private Providers of Public Goods? (Journal of Legal Studies, Cyf. 41 (1), Ionawr 2012), tt.95-130
  2. Hysbysebion yn y North Wales Gazette, passim
  3. North Wales Gazette, 7.3.1811, t.3
  4. North Wales Gazette, 26.1.1815, t.3
  5. North Wales Gazette, 24.2.1825, t.2