Ffair Llanllyfni
Ffair yn Llanllyfni yw Ffair Llanllyfni sydd wedi ei chynnal ers blynyddoedd ar 6 Gorffennaf.
Dyna yw dydd gŵyl Rhedyw Sant, y mae Eglwys Llanllyfni wedi ei chysegru iddo. Credir iddi ei sefydlu gan Daniel Puw a Daniel Parry, yn ôl hen draddodiad. Gelwid hi'n 'Wyl y Mabsant', neu 'Ffair y Mabsant' ar un adeg hefyd.
Cysgod o ffeiriau'r gorffennol yw'r ffair erbyn hyn ond fe'i chynhelir o hyd.
Ffynonellau
- Roberts, Janet D. O Ben Llyn i Lle bu Lleu (Cyngor Gwlad Gwynedd, 1985)
- http://www.walesdirectory.co.uk/Towns_in_Wales/Llanllyfni_Town.htm