Ystad Mynachdy Gwyn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:42, 25 Medi 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Ystad Mynachdy Gwyn yn eiddo i [[Teulu Meredydd, Mynachdy Gwyn|deulu'r Meredyddiaid o'r 16g. ymlaen, ar ôl i Thomas ap Gruffydd ap Jenkin brynu prydles o drefgordd Cwm gan Syr John Puleston tua chanol y ganrif honno. Parhaodd yy ystad yn eiddo i'r teulu tan 1778 yn ôl pob golwg, ac er bod rhannau ohoni o bosibl wedi eu colli fel gwaddol i rai o ferched y teulu, enillwyd ambell i eiddo yn yr un modd.

Aeres yr ystad oedd Anna Maria Meredydd, merch yr olaf o'r hen linach wryw, Meyrick Meredydd. Bu farw Anna Maria ym 1828,[1] ond hanner can mlynedd cyn hynny roedd hi wedi gollwng ei gafael ar yr ystad. Mewn gweithred yn y Llyfrgell Genedlaethol ceir rhestr o'i thiroedd:

PLWYF LLANWNDA

  • Plasty a thiroedd o'r enw Pengwern,
  • Lleiniau
  • Geufron
  • Tŷ yn rhos neu Glan yr rhos
  • Gwerglodd Syper
  • Cae fadog
  • Tyddyn Pontfaen neu Tŷcerrig
  • bwthyn o'r enw Tŷ'n lôn
  • Glan y merllyn neu Glan merllynas.

CLYNNOG FAWR

  • fferm, tir a mawnog o'r enw Monachdy gwyn
  • Cae Pwsan
  • Cae glas
  • Bron'r erw#

PLWYF LLANAELHAEARN

  • Pentre bach
  • Tythyn terfyn y ddaublwy
  • Tyddyn y gors

PLWYF LLANARMON

  • Cefn cynforch neu Cefn cynfor
  • Tyddyn y mab du

PLWYF LLANYSTUMDWY

  • Chwilog fach

PLWYF LLANFIHANGEL Y PENNANT

  • Pant glas
  • Tyddyn y fammaeth
  • bwthyn a thiroedd o'r enw Gadlas

PLWYF BEDDGELERT

  • Hafod lwyfog neuHafod lwyddog

PLWYF LLANLLECHID

  • Tŷ sclattas
  • Nant graien.
  1. J.E. Griffith, Pedigrees of Anglesey and Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t206