Ysgolion Cylchynol
Roedd yr Ysgolion Cylchynol yn gynllun a sefydlwyd gan y Parch. Griffith Jones, Llanddowror, o ddechrau'r 1730au hyd ei farwolaeth ym 1761, i ddysgu plant ac oedolion i ddarllen. Y prif nod oedd eu galluogi i ddarllen y Beibl a llyfrau Cymraeg crefyddol eraill. Sefydlid yr ysgolion mewn mannau cyfleus (eglwys y plwyf yn aml) mewn ardaloedd ledled Cymru gydag athrawon teithiol yn rhoi hyfforddiant ynddynt. Erbyn 1761 roedd 3,325 o ysgolion wedi cael eu sefydlu mewn 1,600 o fannau a thua 250,000 o bobl - sef dros hanner trigolion y wlad ar y pryd - wedi eu hyfforddi i ddarllen ynddynt. Y prif noddwyr oedd Syr John Phillipps, Castell Picton a Madam Bridget Bevan, Talacharn. Parhaodd Madam Bevan â'r cynllun ar ôl marwolaeth Griffith Jones a phan fu farw gadawodd £10,000 at barhau'r gwaith - swm enfawr ym 1780.
Cynhaliwyd un o'r ysgolion hyn yn ffermdy Cefn Berdda (Cefn Buarthau) ym mhlwyf Llanaelhaearn yn ystod gaeaf 1755-56. Addysgwyd 34 ynddi. Bu ysgolion cylchynol hefyd yn eglwys Llanaelhaearn rhwng 1749 a 1773 ac addysgwyd tua 380 o ddisgyblion yn ystod y cyfnod hwn. Un o athrawon Griffith Jones yn Llanaelhaearn oedd curad y plwyf, Ellis Thomas, a chafodd bob cefnogaeth gan y rheithor, Richard Nanney, Elernion. Ym 1758 dywedir yn yr adroddiad blynyddol ar yr ysgolion hyn, sef y Welch Piety, mai un G_ J_ oedd yn gofalu am yr ysgol ac ar 17 Ionawr y flwyddyn honno anfonodd Nanney lythyr at Griffith Jones yn disgrifio'r ysgol yn Llanaelhaearn gyda'i naw disgybl, gan ddweud "Mi a'u harholais hwy oll un boreu, a chefais rai yn sillebu ac ereill yn darllen yn weddol dda ..."[1]
Cynhaliwyd nifer o ysgolion cylchynol ar ol 1749 yn ardal Llanwnda a Llanfaglan, lle'r roedd Richard Farrington, M.A., gŵr deallus ac academaidd a addysgwyd yn Rhydychen, yn ficer. Tua 1750 aeth ati i godi ysgoldy ger yr eglwys, penododd athro a threfnodd nifer o ysgolion mewn mannau eraill yn y fro.Gwall cyfeirio: Mae tag clo </ref>
ar goll ar gyfer y tag <ref>
Cyfeiriadau
</ref>
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones, 'Rhen Sgŵl, (Llyfrau Bro'r Eifl, Trefor, 1978), tt.7-8.