Rhedynog Felen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:28, 28 Ionawr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Redynog Felen yn ardal Llanwnda yn ddarn penodol o dir a roddwyd i fynaich gan y Tywysogion. Wedi i'r fynaich symud i Aberconwy, fe gadwyd fel lluest (grange yn Saesneg) a fyddai'n cynhyrchu bwyd neu incwm i'r abaty. Ar ôl hynny, fe'i chyfrifid yn drefgordd, sef rhaniad daearyddol a gweinyddol.

Ffiniau

Nodir ffiniau Rhedynog Felen mewn siartrau Abaty Aberconwy sy'n dyddio o tua 1200. Fodd bynnag, nid yw'n glir erbyn hyn yn union beth oedd y ffiniau gan fod rhai enwau wedi diflannu a chymysgedd wedi bod parthed Afon Carrog ac Afon Gwyled. Hyd y gellir canfod o'r siartrau erbyn hyn, roedd y ffin yn rhedeg o ffynnon nid nepell o Eglwys Llanwnda i cyfeiriad y de gelllaw llinell bresennol yr A487 a'r hen briffordd hyd at Bont Dolydd ac o'r fan honno ar hyd yr afon a elwir heddiw yn Garrog ond a oedd arfer cael ei alw'n Wyled nes cyrreadd Abercarrog, nid nepell o fferm Glan'rafon. O'r fan honno rhedai'r ffin i fyny'r afon Carrog (a elwir heddiw yn Afon Glan-rhyd heibio i Felinwnda ac wedyn at y ffynnon a enwyd eisoes.

Tir eglwysig

Mae siartrau Abaty Aberconwy yn dangos hanes Rhedynog, sef boid hen fynachdy Cymreig wedi bodoli ar y safle am ychydig flynyddoedd cyn symud i Aberconwy ar ddiwedd y 12g.. Mae cyfeiriad i’r lle yma hefyd yn dyddio i 1180, ym Mrut y Tywysogion, fel lle diogel dan nawdd Tywysogion Gwynedd, sydd yn awgrymu bod rhai o leiaf o fynaich Ystrad Fflur wedi symud yna. Mae'r siartr hefyd yn awgyrumu i’r lleoliad gael ei roi yn rodd i fynachod Aberconwy ym 1198 gan Llywelyn ab Iorwerth, gan ei fod yn cael ei chysylltu â’r Abaty yn aml. Os yw hyn yn gywir, mae’n cryfhau’r ddadl fod y lle yma wedi bod yn fynachdy ei hun ar un cyfnod. Fel y traddodiad, fyddai’r sefydliad yma mewn angen i gael ei fferm ei hun, neu ‘cwirt’/’cwrt’ fel y gelwir. Mae’r ffaith fod Cefn Hengwrt a Beudy Gwyn (yn cyfeirio, mae'n debyg, at y Brodyr Gwynion fel y gelwid y mynaich) yn agos i Redynog Felen felly yn dangos fod yr angen yma wedi bodoli ar un cyfnod, a bod y lle'n fferm a fyddai'n cyflenwi bwyd a/neu incwm i fynaich Aberconwy, a hynny hyd at ddiddymiad y mynachlogydd ym 1536.

Y Drefgordd

Roedd Rhedynog Felen yn un o dair trefgordd (neu raniad) yng nghylch eglwys Llanwnda. Roedd y ddwy arall, Bodellog a Llanwnda ei hun, yn drefi cyfrif (lle roedd y trigolion â gorfodaeth i wneud gwaith i ddeiliad y drefgordd). Roedd Rhedynog Felen yn dref rhydd, lle nad oedd gan y trigolion yr un dyletswyddau.


Perchenogaeth

Pan gymerodd y brenin Harri VIII berchnogaeth ar y lle ym 1536, fe roddodd Redynog Felen ar brydles i Huw Puleston o Gaernarfon, er i ddyn o'r enw William ap Dafydd ap Siencyn honni fod ganddo brydles gan y mynaich eisoes am gyfnod o 34 mlnedd, er na lwyddodd i brofi ei honaid. Gwerthodd y Goron y lle i Gruffydd Davies AS ym 1557. Roedd o wedi bod yn aelod seneddol dros fwrdeisdrefi'r sir ym 1553, yn un o brif ynadon y sir ac yn uchel siryf dair gwaith. Mab Caerhun yn Nyffryn Conwy ydoedd, nid nepell o safle Abaty Aberconwy ac efallai dyna'r rheswm pam y dangosodd ddiddordeb yn Rhedynog Felen, oedd yn bell o'i gartref wedi iddo farw ym 1583 neu'n fuan wedyn. Beth bynnag, bu Rhedynog yn eiddo i'w ei deulu am gyfnod. Nid oedd trigolion trefgordd Rhedynog yn hapus gyda hyn a fe gawsant eu cyhuddo (a hynny heb sail mae'n debyg) o ysbeilio'r tiroedd o'r coed ac ati a fyddai wedi rhoi elw i'r perchennog newydd. Gan fod y tir mor bell o'i gartref, fe'i gosodwyd ar brydles i Morgan ap Harri o Lanwnda am dymor sydd heb ei gofnodi, a hynny rywbryd cyn 1576.

Mae Rhedynog Felen erbyn hyn yn enw ar hen annedd a fferm yn rhan isaf plwyf Llanwnda, a cheir cyfeiriad cynnar i’r lleoliad yma ym 1640, pan oedd o'n eiddo i Thomas ap Ievan. Ceir sôn yn ei ewyllys am drwsio'r "hen dŷ", sydd yn awgrymu bod tŷ eithaf newydd ar y safle y pryd hynny hefyd. Heddiw mae ffermdy yn ogystal a thŷ swmpus ar y safle. Ceir yr ysgrif ‘1673 I L A’ ar lechen yn y tŷ, a chredir i hyn fod yn gyfeiriad at ei pherchnogion - roedd Lewis Jones yn berchennog ar y lle ym 1673, a byddai "A" yn cyfeirio at enw ei wraig (sydd yn anhysbys er y credai W. Gilbert Williams mai merch Tŷ Hen, Llanwnda oedd hi. Dichon mai ŵyr i Thomas ap Ievan oedd Lewis Jones, gan fod merch Thomas, Catherine, wedi priodi â dyn o'r enw Griffith Jones.

Mae tir Rhedynogfelen wedi bod yn nwylo rhai o deuluoedd nodedig y Sir ar adegau, cyn cael ei werthu ymlaen a’i hollti mewn maint pob tro. Tybir mai hyn yw achos y ffaith fod ei statws a’r cof ohoni fel lleoliad pwysig wedi diflannu.

Ffynonellau

Cofnod am Rhedynogfelen ar wefan y Comisiwn Brenhinol.

Colin Gresham, The Aberconwy Charter, (Archaeologia Cambrensis, Rhagfyr 1939), t.138

Ll.G.C., Ewyllys Morgan ap Harrye, B1576/1

Ll.G.C., Ewyllys Thomas ap Ievan, B/1641/44

Williams, W. Gilbert Moel Tryfan i’r Traeth: Erthyglau ar hanes plwyfi Llanwnda a Llandwrog (Cyhoeddiadau Mei, Penygroes 1983)

Williams, W Gilbert, Hen Deuluoedd Llanwnda. VI - Teulu Rhedynog Felen, Cylchgrawn Hanes Sir Gaernarfon, Cyf 8, (1947), tt20-2.

History of Parliament, 1509-1558 [1]