Morris Pugh
Roedd Morris Edwin Pugh (g.25 Tachwedd 1901) yn ficer Clynnog Fawr, 1945-1950.
Mab ydoedd i Rees Pugh (1861-1932), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann Jenkins ei wraig (1870-1932), a hanai o Langollen, ond oedd wedyn yn byw yn Ffestiniog. Symudai'r teulu o gwmpas wrth i't tad newido'r naill chwarel i'r llall, gan gynnwys cyfnod yn Nnhreharris yn y De - cyn i Morris gael ei eni ym 1901 yn Stryd Llanegryn, Abergynolwyn, Meirionnydd.[1] Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.[2]
Gadawodd yr ysgol ym 1915, gan fynd yn brentis groser. Mae cofnod amdano wedyn ym 1932 pan oedd Morris yn fyfyriwr ac yn gweithredu fel gweinyddwr ystad ei frawd.[[Hanes Teulu Rees Pugh, [1], cyrchwyd 21.12.2022]] Erbyn 1939, roedd wedi cael ei ordeinio ac roedd yn byw yn Menai House, Stryd Fawr, Llangefni lle gweithiodd fel offeiriad.[3] Priododd â Gwendoline M. Wilkes, clerc mewn swyddfa twrnai yng Nghaergybi ym 1944.[4] Rhwng 1945 a 1950 fo oedd Ficer Clynnog.
Roedd Morris Pugh yn frawd i'r Parchedig Ivor Pugh, Ficer Clitheroe, ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.
Mae hanes llawn teulu Pugh i'w gael ar y we [https://www.grantonline.com/pugh-family-genealogy/pugh-rees-1861/rees-pugh.htm]