Morris Pugh

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:12, 20 Rhagfyr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Morris Edwin Pugh (g.25 Tachwedd 1901) yn ficer Clynnog Fawr, 1945-1950.

Mab ydoedd i Rees Pugh (1861-?1910), chwarelwr a hanai o Gorris a Margaret Ann ei wraig (g.1870), a hanai o Langollen. Symudai'r teulu o gwmpas wrth i't tad newido'r naill chwarel i'r llall, gan gynnwys cyfnod yn Nnhreharris yn y De - cyn i Morris gael ei eni ym 1901 yn Abergynolwyn, Meirionnydd.[1] Eglwyswyr oedd y teulu, mae'n debyg, gan iddynt fedyddio eu plant yn Eglwys Llanegryn.[2]

Erbyn 1939, roedd wedi cael ei ordeinio ac roedd yn byw yn Menai House, Stryd Fawr, Llangefni lle gweithiodd fel offeiriad.[3] Priododd â Gwendoline M. Wilkes, clerc mewn swyddfa twrnai yng Nghaergybi ym 1944.[4] Rhwng 1945 a 1950 fo oedd Ficer Clynnog.

Roedd Morris Pugh yn frawd i'r Parchedig Ivor Pugh, Ficer Clitheroe, ac i'r Canon Thomas Pugh, Cricieth.

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad plwyf Llanfihangel-y-Pennant, Meirionnydd, 1911
  2. Archifdy Dolgellau, Cofrestr Bedydd Llanegryn
  3. Cofrestr 1939, Llangefni
  4. Cofrestr Caergybi, 1939; Mynegai Priodasau 1944