John Hughes (Alaw Llyfnwy)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:01, 12 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd John Hughes (Alaw Llyfnwy) (1841-?1905) yn un o gerddorion mwyaf Dyffryn Nantlle yn ail hanner y 19g. Chwarelwr oedd o wrth ei waith, ond fe'i dewiswyd yn oruchwyliwr Chwarel Pen-y-bryn ym 1886 i olynu John Roberts.[1], er iddo gael ei ddisgrifio fel "chwarelwr" hyd yn oed wedi hynny yn y Cyfrifiad ac, ym 1891, roedd yn cadw morwyn i helpu yn y tŷ. Roedd ganddo fo a'i wraig Catherine (1841-1899)[2] o leiaf saith o blant. Cartref y teulu oedd Brynffynnon, tŷ sylweddol ger Coedmadog ym mhentref Tal-y-sarn.[3]

Ysgrifennodd draethawd sylweddol ar chwareli Dyffryn Nantlle ac yn y 1870au ac 1880au roedd yn ohebydd lled gyson yn ysgrifennu i sawl papur newydd. Roedd ganddo'r ddawn a'r safon yn y gymdeithas chwarelyddol i fod yn gadeirydd mewn cyfarfodydd cyhoeddus, yn arbennig yn ei gapel, Capel Hyfrydle (MC), Tal-y-sarn[4]. Ei brif faes rhagoriaeth, fodd bynnag, oedd cerddoriaeth. Bu'n cystadlu'n ddyn ifanc, ond yn nes ymlaen daeth yn boblogaidd yn lleol fel beirniad mewn eisteddfodau. Fe'i hadwaenid trwy Gymru gyfan fel cyfansoddwr nifer o ddarnau poblogaidd ar gyfer corau ac unawdwyr, megis Corn y Glyn ac Adgofion Dedwydd, a ddefnyddiwyd yn aml fel darnau prawf mewn eisteddfodau ledled Cymru.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Drych, 12.8.1886, t.8
  2. Y Werin, 22.7.1899, t.3
  3. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1881-91
  4. Y Genedl Gymreig, 11.1.1899, t.7