David Jones, gweinidog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:21, 10 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y Parch. David Jones yn weinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd a fu'n gwasanaethu ynNyffryn Nantlle am ddau gyfnod tua diwedd y 19g. Bu'n weinidog ar gapel Salem, Llanllyfni o 1873 hyd 1878, pan dderbyniodd alwad gan gapel yr enwad yn Llanfair Talhaearn, Sir Ddinbych. Dychwelodd o'r fan honno ym 1885 i fod yn weinidog Hyfrydle, Tal-y-sarn, cyn gadael yr ofalaeth honno ym 1889 am gapel yn Nyffryn Clwyd. [1]

Roedd gan David JOnes wraig, Mary Laura, a aned ym Mangor ym 1834, ac o leiaf ddau o blant: Mary Elizabeth (g.1866 ym Machynlleth), ac Edward Llewelyn (g.1870 yn Abergynolwyn).[2] Mae lleoedd geni'r plant yn tueddu awgrymu mai yn y lleoedd hynny yr oedd David Jones wedi bod yn gwasanaethu fel gweinidog cyn cyrraedd Dyffryn Nantlle.

Er nad oes llawer o'i farddoniaeth wedi dod i'r fei, mae'n amlwg ei fod yn fardd da. Gosodwyd ef yn bedwaredd allan o 18 o feirdd y dyffryn o ran eu safon ym 1888[3] Credir iddo ennill ar yr awdl ac ar y bryddest yng nghyfardod llenyddol Capel Moriah, Caernarfon ym 1884.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), tt.135-6, 325; Y Genedl Gymreig, 24.4.1889, t.8
  2. Cyfrifiad plwyf Llanfair Talhaearn, 1871
  3. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  4. Y Genedl Gymreig, 16.4.1884, t.5