O. Llew Owain
Yr oedd Owain Llywelyn Owain (sef O. Llew Owain) (1877-1956) yn llenor, cerddor a newyddiadurwr.
Ganed ym Mlaenyryrfa, Tal-y-sarn ar 3 Gorffennaf 1877
- Yn 12 oed aeth i weithio i chwarel y Gloddfa Glai a Chwarel Cornwall ar ôl hynny.
- Yn 15 oed dechreuodd ar yrfa mewn newyddiaduraeth a bu’n aelod o staff golygyddol Y Genedl Gymreig a’r Herald wedi uno’r ddau bapur.
- Ymddeolodd ym1936 ond parhaodd i gyfrannu i’r wasg.
- Bu’n arwain cymanfaoedd canu ar hyd a lled y wlad ac yn Lloegr.
- Hyfforddodd lawer o gerddorion a bu’n beirniadu cerddoriaeth mewn cannoedd o eisteddfodau.
- Roedd ganddo gôr bychan —Côr y Delyn Aur.
- Ysgrifennydd Clwb Awen a Chân yng Nghaernarfon ac un o’i sylfaenwyr.
- Cymerai ddiddordeb mawr yn Urdd Gobaith Cymru yng Nghaernarfon.
• Awdur cofiannau fel: Fanny Jones (1907) Ieuan Twrog (1909) J.O. Jones (Ap Ffarmwr) (1912) T.E. Ellis (1916) Anthropos a Chlwb Awen a Chân (1946) Bywyd a gwaith ac arabedd Anthropos (1953)
- Awdur nifer o erthyglau yn Y Traethodydd a’r Drysorfa.
- Awdur Hanes y Ddrama yng Nghymru 1850-1943 (1948)
- Priododd Claudia Roberts ym 1916. Wedi iddi hi farw ailbriododd ym 1918 ag Enid May Jones. Bu farw yn eu cartref, Bryn-y-coed, 10 Pretoria Avenue, Caernarfon, 8 Ionawr 1956.[1]
Amlosgwyd ei weddillion ym Mhenbedw.[2]