Toda Ogunbanwo (Sage Todz)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:16, 27 Mehefin 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Rapiwr a chyfansoddwr caneuon rap o Gymro yw Sage Todz, a gafodd ei addysg uwchradd yn Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen-y-groes. Cafodd lawer o sylw yn y wasg Gymraeg ym Mawrth 2022 ar ôl i'w rhyddhau fideo ohono fe'n rapio yn ddwyieithog.

Symudwyd teulu Sage Todz (enw llawn Toda Ogunbanwo) i Ben-y-groes o Essex yn 2007. Bu rhaid i Sage dioddef hiliaeth pan oedd yn ifanc ond dywedodd nad oedd wedi derbyn yr un fath o broblemau yng Nghymru. Symudodd ei deulu yno i gynnal eglwys yn hen adeilad Gwesty'r Llew Coch.

Aeth Sage i astudio chwaraeon yng Ngholeg Brunel, Llundain. Mae'n dweud bod yna llawer o wahaniaethau rhwng Llundain a Gwynedd wledig. Dechreuoedd gyfansoddi math arbennig o rapio sef Drill. 'Drill' yw is-genre o rap Prydeinig sydd yn defnyddio curiadau drymiau cyflym i greu cerddoriaeth egnïol. Mae'r math yn wreiddiol o Chicago yn yr Unol Daleithiau ac mae trosedd, trais a thywyllwch realiti bywyd yn un o brif themâu'r genre.

Mae ei hunaniaeth Cymraeg a Gymreig yn bwysig iddo. Dywedodd "Mae'n darn o pwy ydyw i", gab ei fod wedi "byw yna [yng Nghymru] ers dros 15 o flynyddoedd a dwi'n siarad y iaith." Sengl 'Rownd a Rownd'

Rhyddhaodd Sage fideo ar-lein ohono'n 'drilio' ei rap newydd 'Rownd a Rownd' ym Mawrth 2022. Mae mwyafrif o'r darn yn yr iaith Gymraeg, daeth yn fideo poblogaidd ar y cyfryngau cymdeithasol. Hyd at Ebrill 2022 mae'r fideo wedi cael ei weld dros 209,000 o weithiau ar drydar.[1]

Cyfesiriadau

  1. Mae'r manylion hyn wedi eu codi o ertrhygl,Sage Todz ar Wicipedia [1], gyda pheth wybodaeth leol wedi ei chynnwys hefyd.