Pont Mur-y-goeden

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:55, 23 Mehefin 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Saif Pont Mur-y-goeden ar ffin cwmwd Uwchgwyrfai yn y man lle mae'r ffordd i Lŷn yn croesi o blwyf Llanaelhaearn i hen blwyf Carnguwch, ger Bwlch Siwncwl rhwng Yr Eifl a Mynydd Carnguwch. Nid oes sicrwydd ynglŷn ag oedran y bont ond mae'n debygol o fod yn bur hen gan ei bod yn rhannu rhai o nodweddion hen bontydd Llŷn ag Eifionydd gyda sarnau ar bob pen. Mae'n cael ei henw o hen fwthyn Mur-y-goeden a safai ar ochr y lôn gerllaw ac y gwelir ei adfeilion yn amlwg o hyd.