Chwarel Tan-y-graig
Yr oedd dwy chwarel ar lethrau mynydd Gurn Ddu a aeth dan yr enwau Chwarel Tan-y-graig, rhif 1 a rhif 2, ac fe’u hunwyd maes o law dan yr un berchnogaeth. Agorwyd Chwarel Tan-y-graig rhif 1, y fwyaf deheuol o’r ddwy, ym 1864, gan Gwmni Setiau Tan-y-graig, Cyf. Yn wreiddiol fe’i galwyd yn Chwarel Williams. Chwarel ithfaen ydoedd, ar lethr ogleddol Gurn Ddu, i’r de ac uwchben ffermdy Tan-y-graig ym mhlwyf Llanaelhaearn. Caewyd y chwarel ym 1866, ond fe’i hail-agorwyd gan ddyn o’r enw J.H. White a sefydlodd Cwmni Chwareli Ithfaen Gogledd Cymru, Cyf., ym 1877. Gwerthodd y cwmni ym 1882. Serch hynny, roedd yr inclein, glanfa ar lan y môr ar draeth Trefor a’r adeiladau i gyd wedi eu gadael erbyn 1885. Erbyn cyhoeddi mapiau Ordnans 1888 a 1900, nodir safleoedd y ddwy chwarel fel "hen chwareli", gyda'r incleins yn ddi-ddefnydd a'r cledrau wedi'u codi.[1]
Ail-afaelwyd yn y chwarel tua throad y ganrif, a rhwng 1901 a 1915 roedd y chwarel yn cael ei rhedeg gan y Cwmni Prydeinig Ithfaen Llwyd, Cyf. dan y rheolwr, Simon McPherson. Yn ystod teyrnasiad y cwmni hwn, adeiladwyd inclein newydd hir a serth tua 1905 a gysylltwyd ag inclein Chwarel Tyddyn Hywel, er nad oedd y chwareli wedi eu huno o dan yr un berchnogaeth. Roedd Chwarel Tan-y-graig rhif 1 yn weddol gynhyrchiol, a gwyddys mai 3089 tunnell o setiau a gynhyrchwyd ym 1907. Y flwyddyn ganlynol cynhyrchwyd llai o lawer - dim ond 204 tunnell o setiau a 355 tunnell o gerrig mâl ar gyfer macadam. Mae'n bosibl bod y gostyngiad hwn yn adlewyrchu newid yn ffocws y chwarel tuag at gynhyrchu cerrig mâl, gan fod y cynnyrch wedi codi'n sylweddol ym 1909 - i 1490 tunnell o setiau a 5832 tunnell o gerrig mâl. Cynyddodd nifer y gweithwyr hefyd - o 24 ym 1901 i 50 ym 1902 a 59 ym 1913.
Daeth y Cwmni Ithfaen Llwyd i ben ym 1915, a phrynwyd y chwarel gan Gwmni Ithfaen Enderby a Stoney Stanton Cyf., perchnogion Chwarel Tyddyn Hywel. Adeiladwyd peiriant malu cerrig yn y chwarel ym 1908; erbyn 1915, malurion ithfaen ar gyfer cynhyrchu metlin macadam oedd prif gynnyrch y chwarel. Fe’u hallforiwyd o gei ger Bryn-yr-eryr. (Mae'r swyddfa a adeiladwyd gan Gwmni Ithfaen Enderby ym 1914 yn dal ar ei thraed ar ochr uchaf y ffordd fawr (A499) o dan Chwarel Tyddyn Hywel. Mae mewn cyflwr da at ei gilydd ac mae enw'r cwmni a dyddiad ei hadeiladu i'w gweld yn glir uwchben y drws. Hefyd mae llwybr y dramffordd o'r chwarel at y swyddfa, ynghyd â llwybr y dramffordd o Chwarel Tan-y-graig a oedd yn cysylltu â hi yn amlwg hefyd. Yn ogystal ar y ffordd fechan o dan y briffordd sy'n mynd drwy ardal Tyddyn Hywel, mae rheiliau bach y dramffordd at y cei wedi dod i'r amlwg wrth y fynedfa i lawr at Bryn-y-eryr gan fod y lôn wedi gwisgo'n dwll yno - gwelir mai 2 droedfedd sydd rhyngddynt.) Bu’r cwmni hwnnw'n dal yn berchen y chwarel tan 1931 (trwy ei is-gwmni, Cwmni (Cymreig) Enderby, Cyf.). Ym 1930 neu 1931 fe’i gwerthwyd i gwmni mawr Thomas W. Ward Cyf., ond hyd y gwyddys, ni weithiwyd y chwarel gan gwmni Ward. Caewyd y chwarel yn llwyr ym 1931; nid oedd y chwarel wedi cynhyrchu setiau er 1927. Mae’n ymddangos mai’r rheswm dros gau’r chwarel oedd y methiant i ddenu chwarelwyr i weithio yno, gan fod Chwarel Trefor yn talu cyflogau gwell.
Roedd Chwarel Tan-y-graig rhif 2, yn ôl pob sôn, yn hŷn na chwarel rhif 1, ac arferid ei galw’n Chwarel Huw Evans neu Chwarel Black Shot. Cynhyrchu setiau oedd unig waith y chwarel hon, ac roedd yn cael ei gweithio, mae’n debyg, o ganol yr 1800au. Rhwng 1877 ac 1879 fe'i gosodwyd gan y landlordiaid, Turner (Syr Llewelyn Turner, mae’n debyg) a Spargo (Edmund Spargo, dyn a ddisgrifiwyd fel “dyn gwellt â ganddo gymeriad amheus”). Ym 1879, cymerwyd y gwaith drosodd gan y Cwmni Setiau Ithfaen Cenedlaethol, Cyf., a’r un flwyddyn ffurfiwyd Cwmni Newydd Chwarel Setiau Tan-y-graig, Cyf. Ysywaeth, aeth y cwmni hwnnw i’r wal ym 1886. Rhwng 1901 a 1904, y perchennog oedd Cwmni Ithfaen Tan-y-graig, Cyf. - rhaid bod yn ofalus i wahaniaethu rhwng y gwahanol gwmnïau a ddefnyddiai Tan-y-graig yn rhan o’u henwau ffurfiol. Ni fu’r cwmni newydd yn llwyddiant, ac fe gaewyd Chwarel rhif 2 ym 1903 am y tro olaf, er bod 50 o ddynion yn gweithio yno ym 1902. Roedd system o gludo’r cynnyrch i lawr i’r lanfa yn y môr newydd ei sefydlu, a hynny trwy gyfrwng cewyll a deithiai trwy’r awyr ar hyd rhaffau dur. Y bwriad oedd dechrau cynhyrchu malurion ithfaen, ond mae’n amheus a ddefnyddiwyd y rhaff-gludydd hwn o gwbl. Rywbryd ar ôl 1903, ac yn sicr erbyn 1915, unwyd y ddwy chwarel hyn â Chwarel Tyddyn Hywel. Mae manylion am hanes mwy diweddar y chwareli i’w gael yn yr erthygl am y chwarel honno, er i chwarel rhif 1 barhau'n weithgar, gyda 39 o ddynion yn gweithio yno ym 1922. Ym 1934, roedd 72 o ddynion yn gweithio yno fel chwarelwyr, o'i gymharu â dim ond 28 yn Chwarel Tyddyn Hywel.
Symudwyd y cynnyrch o’r chwarel, a oedd ar ochr y mynydd ac yn bur anhygyrch, trwy system o dramffyrdd ac incleins gyda’r cledrau tua 2 droedfedd oddi wrth ei gilydd - sef lled arferol chwareli gogledd Gwynedd. Erbyn 1875, roedd cwmni Tan-y-graig yn awyddus i rannu cei Chwarel yr Eifl yn Nhrefor, ond cafwyd gwrthwynebiad gan y cwmni hwnnw, ac arweiniodd hynny at i’r cwmni orfod defnyddio’u cei eu hunain, ar ben gogleddol traeth Trefor, ger Gapas Lwyd. O 1905 ymlaen, cysylltwyd y system o dramffyrdd gyda rhai Chwarel Tyddyn Hywel, ymhellach i’r gogledd.[2]
Mae’n ddringfa serth iawn at y chwareli hyn, gyda’r canlyniad nad oes fawr o ddifrod wedi ei achosi i adeiladau’r chwareli, ar wahân i doeau’r adeiladau a’r rhan fwyaf o’r peirianwaith.