Robert Williams Parry

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:12, 21 Mai 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Robert Williams Parry (1884-1956) yn un o feirdd mwayf yr 20g yn ôl rhai, er na chyhoeddodd ond dwy gyfrol o farddoniaeth. Roedd yn gefnder i Syr Thomas Parry a Syr T.H. Parry-Williams - roedd y tri'n rhannu'r un taid ond mamau gwahanol. Cafodd ei eni yn Madog View, tŷ ym mhentref Tal-y-sarn, lle mae cofeb amlwg iddo ar ochr y stryd, dros y ffordd i safle'r hen orsaf. Mae modd gwylio ffilm o seremoni dadorchuddio'r gofeb ym 1969 yma [1].

Gyrfa

Derbyniodd ei addysg uwchradd yn Ysgolion Sir Caernarfon a Phen-y-groes cyn symud i Goleg y Brifysgol, lle'r arhosodd am ddwy flynedd, ond heb raddio. Yn dilyn hynny cafodd swydd fel athro ysgol. Ym 1907 aeth i Goleg y Brifysgol, Bangor lle graddiodd y flwyddyn ganlynol. O 1908 hyd 1916 bu'n athro mewn sawl ysgol, yn cynnwys Ysgol Sir Bryn'refail, ysgolion cynradd Cefnddwysarn a Sarn (Llŷn), ac wedyn Ysgol Sir y Barri. Ymunodd â'r fyddin dan orfodaeth ym 1916, cyn dychwelyd i'r Barri ym 1918. Ym 1921 fe'i penodwyd yn ddarlithydd ar y cyd rhwng Adran y Gymraeg a'r Adran Efrydiau Allanol yng Ngholeg Bangor.

Ar ôl rhai blynyddoedd boddhaus fel darlithydd ym meysydd Llydaweg, Cernyweg a gramadeg y Gymraeg, dymunai droi ei law at ddarlithio mwy ym maes crefft llenyddiaeth, ond roedd yr Athro, Syr Ifor Williams, yn teimlo nad oedd cynnwys yr hyn a oedd gan RWP yn ei ddarlithoedd yn ddigon academaidd. Dilynwyd hyn gan gyfnod hir o chwerwder a chynnen a barhaodd am 15 mlynedd.[1]

Yn ôl pob sôn roedd yn ddyn swil ac ofnus, ond bu'n athro poblogaidd mewn dosbarthiadau nos, gan gynnwys am sawl tymor yn Nhrefor, lle llwyddodd i feithrin nifer o feirdd medrus yn y mesurau caeth. Roedd yn genedlaetholwr cadarn a chafodd carchariad Tri Penyberth effaith sylweddol arno, ac yn arbennig ddiswyddo Saunders Lewis gan Goleg y Brifysgol, Abertawe, yn dilyn ei garchariad. Cyfansoddodd nifer o gerddi ysgytwol i Saunders Lewis a'r erlid a fu arno o du awdurdodau'r brifysgol yn arbennig.

Gwaith llenyddol

Gyda'r mesurau caeth y dechreuodd Williams Parry ei yrfa fel bardd, dan gyfarwyddyd dau ŵr a oedd yn byw yn Nhal-y-sarn, sef Owen Edwards (Anant), chwarelwr, a H.E. Jones (Hywel Cefni), gwerthwr dillad.

Daeth yn enwog fel bardd pan enillodd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol 1910 am ei awdl Yr Haf, cerdd a barodd gryn gyffro ac a ddenodd lawer o efelychwyr.[2]

Mae Williams Parry'n enwog yn bennaf am ei ddwy gyfrol denau, ond ysgubol, o farddoniaeth, Yr Haf a Cherddi eraill (1924) a Cerddi'r Gaeaf (1956). Yn y gyntaf o'r rhain ceir Mae Hiraeth yn y Môr, Y Llwynog ac Englynion Coffa Hedd Wyn yn ogystal â'r awdl faith a enillodd iddo'r gadair ym 1910; yn yr ail ceir cerddi megis Eifionydd, Y Ddôl a aeth o'r golwg (Dôl Pebin), Cymru 1937 (efallai ei soned fwyaf un) a'r englyn i Neuadd Goffa Mynytho. Cyhoeddodd Bedwyr Lewis Jones gyfrol o'i ryddiaith ym 1974.

Priododd ym 1923 â Myfanwy Davies o Rosllannerchrugog (bu farw ym 1972), ac yn dilyn ei benodi'n ddarlithydd ym Mangor fe wnaethant ymgartrefu yn ardal Coetmor, Bethesda - mae plac ar wyneb y tŷ yn nodi iddo fod yn gartref i RWP. Ni chawsant blant. Mae'r ddau wedi eu claddu wrth ochr y prif lwybr sy'n mynd ar draws drwy ganol Mynwent Coetmor.

Ei gartref

Wedi iddo farw, etifeddodd Coleg Bangor ei dŷ yn Nhal-y-sarn, ac am flynyddodd roedd modd galw yno a gweld ystafell fyw RWP. Bellach mae'r tŷ wedi ei werthu, ond erys plac ar ffrynt y tŷ.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia am Robert Williams Parry [2]
  2. Erthygl ar Robert Williams Parry yn Y Bygraffiadur ar-lein, [3]