Brian Owen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:42, 9 Mai 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Hugh Brian Owen (1935-2014), Cefn Rhos, Y Groeslon, yn adroddwr arobryn a enillodd yn aml mewn eisteddfodau. Mab ydoedd i John Henry a Nellie Owen, Rhiwenfa, er iddo gael ei fagu gan ei nain a'i daid yng Nghefn Rhos.

Enillodd bum gwaith yn Eisteddfod Pantyfedwen, Pontrhydfendigaid, a derbyn cwpan aur. Erbyn Eisteddfod Genedlaethol y Drenewydd, 1965, roedd wedi ennill y gystadleuaeth adrodd i ddynion dros 25 oed bump o weithiau. Cafodd ei hyfforddi gan y Dr John Gwilym Jones. Ym 1961, enillodd y Rhuban Glas i Adroddwyr, sydd ond yn agored i enillwyr y categorïau adrodd yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Enillodd Wobr Goffa Llwyd o'r Bryn ddwywaith, sef y brif wobr am adrodd neu lefaru, a hynny ddwywaith, ym 1965 a 1968, un o ddim ond tri i gyflawni'r gamp honno - y lleill oedd Stewart Jones yr actor a Siân Teifi.[1]

Roedd yn adroddwr poblogaidd hefyd mewn cyngherddau a nosweithiau llawen. Cyhoeddwyd record gan Recordiau'r Dryw ohono'n adrodd.[2]

Bu farw yn ystod Rhagfyur 2014 yn 79 oed.

Cyfeiriadau

  1. Daily Post, 16.07.2008 [1], cyrchwyd 09.05.2022
  2. ‘’Hanes y Groeslon’’, (Caernarfon, 2000), t.115