Afon y Bala
Afon y Bala oedd yr hen enw ar y pwt o afon rhwng Llyn Nantlle Uchaf a Llyn Nantlle Isaf. Rhan o Afon Llyfni ydyw, ond ar dafod leferydd Afon Drws-y-coed oedd enw'r afon rhwng ei tharddiad a'r llyn uchaf, ac Afon Llyfni a ddefnyddid ar gyfer yr afon wedi iddi arllwys o'r llyn isaf. Bala yw'r enw am y man lle llifa afon o lyn neu lle mae dau lyn yn cyfarfod, e.e. Llyn Padarn a Llyn Peris yn Llanberis.
Roedd trobwll lle roedd Afon y Bala yn llifo i'r llyn isaf ac yn y fan beryglus honno yr arferai plant pentref Nantlle fynd i nofio yn ystod yr haf.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma