Chwarel Coedmadog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:44, 29 Mehefin 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwarel lechi oedd Chwarel Coedmadog, neu fel y gelwir hi weithiau y Gloddfa Glai, yn Nhal-y-sarn. Twll agored ydoedd.

Agorwyd y chwarel hon ar ddechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar dir Ystad Coedmadog, wrth ymyl Cloddfa'r Coed. Erbyn yr 1880au, Cwmni Llechi Coed Madog oedd yn gyfrifol am ei gweithio. Yn 1883 roedd 135 o weithwyr yn gyflogedig yno, ac roeddynt yn cynhyrchu 2,879 tunnell o lechi. Codwyd tramffordd fewnol erbyn 1877, gydag injan stêm De Winton yn gweithredu arni erbyn y diwedd. Caeodd y chwarel yn 1908-9, er bod gwaith ar raddfa fechan wedi parhau yno hyd 1920.[1] Y broblem, mae'n debyg, oedd pwysau dŵr yn llenwi'r twll yn gyflym oni fyddai yna waith pwmpio cyson. Roedd y llechi, serch hynny, o'r ansawdd gorau gan hollti'n ardderchog; fe'u marchnatwyd dan yr enw llechi Caernarvonshire Blue. Roedd cyswllt yma hefyd gyda Rheilffordd Nantlle, ond o 1881 ymlaen roedd cyswllt uniongyrchol gyda LNWR - yr unig chwarel i wneud hynny yn yr ardal - roedd seidin yn rhedeg ymlaen o orsaf Nantlle i mewn i'r chwarel.[2]

Yn ystod dirwasgiad y 1930au, cymerodd W.J. Davies brydles ar y tomennydd a bu cannoedd o'r di-waith yn rybela am ddeunydd defnyddiadwy.[3]

Dyma'r chwarel gyntaf yn Nyffryn Nantlle i gael ei thirlunio a llenwi'r twll a chwalu'r tipiau, gan greu man i chwarae. Cynt yr oedd y tipiau ar hyd y lein o'r chwarel hyd at y gwaith nwy, ac yn cuddio golygfa o'r dyffryn o'r tai a safai ar hyd Ffordd yr Orsaf.[4]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Tomos, Dewi Chwareli Dyffryn Nantlle (Llyfrau Llafar Gwlad, 2007), passim.
  2. Idwal Hughes, Chwareli Dyffryn Nantlle,(Pen-y-groes, 1980), t.9-10
  3. Idwal Hughes, op. cit., t.10
  4. Idwal Hughes, op. cit., t.10