Cledwyn Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:11, 12 Ebrill 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Cledwyn Jones ym 1923 ym mhentref chwarelyddol Tal-y-sarn, Dyffryn Nantlle. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Tal-y-sarn, ac yna Ysgol Ramadeg, Pen-y-groes o 1934-41.

Treuliodd bedair blynedd yn yr RAF o 1941-45, cyn dychwelyd i’w gynefin a dilyn cwrs gradd yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, lle cyfarfu â Meredydd Evans (Merêd) a Robin Williams, a chanu fel un o Driawd y Coleg. Roedd y triawd yn canu bob wythnos ar raglen radio boblogaidd Noson Lawen.

Ar ddiwedd ei gwrs, treuliodd dair blynedd fel athro yn ei hen ysgol ym Mhen-y-groes, cyn symud fel athro Addysg Grefyddol a Cherddoriaeth yn Ysgol Bechgyn y Friars, Bangor. Ym 1961, penodwyd ef yn ddarlithydd yn Adran Gymraeg Coleg y Santes Fair, Bangor i ddysgu Cymraeg a threfnu cerddoriaeth ar gyfer y gwasanaethau yn y Capel. Treuliodd gyfnod byr fel darlithydd yn Adran Addysg y Brifysgol, Bangor cyn ymddeol.

Ei brif ddiddordeb yw cerddoriaeth eglwysig, gan gynnwys y litwrgi, yr emynau traddodiadol a chaneuon gwerin.[1]

Yn 2009, cyhoeddodd lyfr o atgofion ei blentyndod yn Nhal-y-sarn, sef Fy Nal-y-sarn i. Mae wedi colli ei wraig, Meriel, ers rhai blynyddoedd. Bu farw eu merch, Shwna, athrawes Ffrangeg a oedd wedi cael gradd Dosarth Cyntaf yn y pwnc, yn 2007 ar ôl blynyddoedd maith mewn cadair olwyn wedi iddi fod mewn damwain car tra oedd yn gweithio yn Corsica.[2]

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Gwales, [1], cyrchwyd 20.01.2021
  2. Gwefan North Wales Live, 28 Ebrill 2007, [2], cyrchwyd 20.01.2021