Siop Griffiths

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:23, 3 Gorffennaf 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Siop Griffiths, nes iddi gau yn 2011 oedd y brif siop nwyddau haearn ac offer tŷ ym mhentref Pen-y-groes.sdefydlwyd y busnes ym 1911, cyn symud i adeilad helaethach, hen adeilad Tafarn y Stag ym 1925. Roedd yno adran llestri cain ond y prif nwyddau oedd offer, nwyddau glanhau ac anghenion trwsio tŷ - megis hoelion, sgriwiau, gwydr, cloeon ac ati. Hyd y diwedd, roedd yn bosibl prynu pethau fel sgriwiau yn ôl y nifer oedd eu hangen, gan eu derbyn mewn sgriw bach o hen bapur newydd.

Mae'n hen adeilad, un o'r rhai hynaf ym Mhen-y-groes, ac yn dyddio, mae'n debyg, o ddechrau'r 19g. Cyn cael ei droi'n siop, roedd yr adeilad yn dafarn, sef Tafarn y Stag's Head, a dywedir bod pobl arfer galw yno wrth aros am drên ar hyd Rheilffordd Nantlle, yr hen dramffordd lle tynnid y trenau gan geffylau hyd 1864. Roedd y dafarn yn ddigon mawr - ac yn ddigon parchus - i fod yn fan cynnal cinio ymadael rheolwr y rheilffordd ym 1863.

Wedi i'r siop gau, safai'n wag am rai blynyddoedd nes i gwmni cymunedol gael ei sefydlu i'w phrynu a'i throi'n adnodd cymunedol. Y fenter gyntaf yn yr adeilad yw caffi, sef Yr Orsaf.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau