Owen Edwards (Anant)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:04, 6 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd ‘’’Owen Edwards (Anant)’’’ (?1855-1918) yn chwarelwr wrth ei alwedigaeth ac yn fardd gwlad nodedig yn Nyffryn Nantlle. Mab i Owen a Laura Edwards oedd o, y tad o blwyf Llanllyfni a’r fam o blwyf Llanaelhaearn, ac er i Owen y mab gan ei enw yng Ngarndolbenmaen, erbyn iddo fod yn 16 oed roedd y teulu wedi hen ymsefydlu yn Nhal-y-sarn. Cyn belled ag y gellir ei ddeall o’r Cyfrifiad, ni symudodd o’r pentref hwnnw, gan briodi ei wraig Catherine (oedd yn dair blynedd yn iau nag ef) a magu chwech o blant yno. Gweithiodd fel chwarelwr ar hyd ei oes, gan fyw erbyn 1901 yn 56 Ffordd Hyfrydle, lle bu farw ym 1918. Ond eto, mae hi wedi bod yn amhosibl canfod ei enw yn nogfennau Cyfrifiad 1891,[1] ac o gwmpas yr adeg honno bu’n cystadlu’n aml yn eisteddfodau Cwm Rhondda a’r ardal ar yr englyn, gan ennill ambell i dro, e.e.:

DR JONES MORRIS, TYLORSTOWN
‘’Llenor o gryn enwogrwydd—yw Morris,
‘’Mawr mewn caredigrwydd;
‘’Cawr i gyflyd cwrs aflwydd,—
‘’Edwina haint yn ei ŵydd.."
Anant, Talysarn.[2]

Tybed a yw’r ffaith fod “Talysarn” wedi ei roi ar ôl ei enw yn awgrymu ei fod wedi dychwelyd adref ond yn dal mewn cysylltiad efo’r De.

Arbenigai, yn wir, yn ffurf yr englyn ac mae sawl enghraifft o’i waith i’w gweld ym mynwentydd y dyffryn.[3] Roedd hefyd yn gyfrannwr cyson i golofnau barddol y papurau lleol, megis ‘’Y Genedl Gymreig’’, ‘’Yr Herald Cymraeg’’ a’r papur mwy lleol yn y dyffryn, ‘’Y Sylwedydd’’. Gellid, yn wir, ei alw’n fardd at iws gwlad.

Roedd yn barddoni’n llwyddiannus mor gynnar â diwedd yr 1870au pan oedd yn ei ugeiniau cynnar a pharhaodd trwy ei oes. Nid oedd unrhyw lewyrch neilltuol i’w waith wrth ei gloriannu yn erbyn cynnyrch ein beirdd mwyaf, ond cafodd ddigon o gomisiynau gan bobl leol, ac enillodd yn gyson mewn eisteddfodau lleol, weithiau’n cofnodi a chanmol llwyddiannau eraill, er enghraifft, yn yr englyn canlynol i’r peiriannydd Mr Winnard, a greodd wely newydd i Afon Llyfni, pan wasanaethodd hwnnw fel llywydd Eisteddfod Tal-y-sarn:

MR. WINNARD
‘’Goleu a nerth ein gŵyl ni - yw Winnard,
‘’Sai'i enw tra'r Lyfni;
‘’Drwy hwn, yr holl drueni
‘’Gwyd o'r Hyn, aiff gyda'r lli'."
Anant[4]

Enghraifft arall o’i waith yw’r englyn yn canmol ffidlwr ifanc:

‘‘Heno’r ffidil brophwyda - oriau llwydd,’’
‘’I’r llanc ieuanc yma;’’
‘’Yn fuan gyda’i fwa’’
‘’A’i grwth, yn wir, gwyrthia wna.’’
Anant [5]

Mae ffasiwn mewn barddoniaeth fel mewn pob dim arall, a rhaid gochel rhag defnyddio safonau a chwaeth heddiw i gloriannu llenorion y gorffennol, ac mae hyn yn arbennig o wir wrth ystyried llenorion yr ail reng! Yn ffodus, gellir gweld sut yr edrychodd ei gyd feirdd arno ar y pryd oherwydd cyhoeddodd rhywun a alwodd ei hun “Y Pwyswr” dabl o’r deunaw uchaf ymysg beirdd y dyffryn, gan roi sgôr rhwng 0 a 20 i bob un mewn pedwar maes, sef awen, barn, dysg a chynghanedd.[6] Gellir o’r hyn fod Y Pwyswr yn ystyried Anant yn chweched orau, gyda sgôr o 46 allan o 80 – a’r bardd lleol gorau yn ei farn ef, William John Davies (Glan Llyfnwy), yn sgorio 69. Maes cryfaf Anant oedd y gynghanedd, lle sgoriodd 14 allan o 20 – a Glan Llyfnwy’n sgorio 19!

Anodd gwybod faint o bwys i’w roi ar farn Y Pwyswr, ond nodwyd ganddo nad oedd yn adnabod yr un o'r deunaw bardd yn y cnawd.

Ei lwyddiant barddonol mwyaf heb os oedd derbyn y gadair yn Eisteddfod Deiniolen, 1911, gyda’r Athro John Morris-Jones yn beirniadu; ond efallai ei gamp fwyaf oll oedd, ynghyd â H.E. Jones (Hywel Cefni), bardd lleol arall o'r un safon ag Anant, ddysgu anghenion y gynghanedd i’r R. Williams Parry ifanc, a oedd yn byw ar yr un stryd.

O ran crefydd yr oedd yn Fedyddiwr ac yn flaenor amlwg yng nghapel Salem. Ym 1902, fe’i dewiswyd yn Llywydd Cymanfa Bedyddwyr Llŷn ac Eifionydd. [7]

Yn ogystal â barddoni, fe’i cyfrifwyd ymysg adroddwyr gorau’r dyffryn yn ei gyfnod. Bu’n beirniadu’n gyson mewn eisteddfodau, ac fe oedd yn hyfforddi rhai o adroddwyr mwyaf llwyddiannus y cylch, fel y tystia’r llythyr canlynol a ymddangosodd yn y wasg:

NID DA I ŴR GLOD ARALL.
(At Olygydd yr "Herald Cymraeg.") 
Syr,-Yn eich rhifyn diweddaf, dan y pennawd "Cymry ar Wasgar," dywed gohebydd o West Pawlet i Mr Henry J. Williams, Carmel, Arfon, ennill cadair am adrodd drannoeth wedi ei gyrhaeddiad i Granville, America, o'r Hen Wlad. Y darn ardderchog, "Carwn ein Gwlad," a'i fod wedi ei ddisgyblu gan yr adroddwr Llew Deulyn, Nantlle. Dymunaf gywiro y gohebydd parthed athraw H. J. Williams, trwy ei hysbysu mai Anant, Talysarn, bia'r clod, os oes clod i ail berson. Efe, hefyd, yw disgyblwr yr adroddwyr penigamp John a D. Owen, Carmel; L. Blodwen Hughes, Talysarn, a lluaws ereill. "Clod i'r hwn mae clod yn ddyledus."-Ydwyf, etc., Darllenydd.[8]

Bu farw 25 Mawrth 1918, gan adael ei wraig a phedwar o’i blant ar ei ôl. [9] Cafwyd teyrnged fer iddo yn ‘’Y Dinesydd Cymreig’’ y mis dilynol:

A ni bron heb orffen sychu ein hysgrif bin i ddymuno adferiad buan ein hannwyl gyfaill Anant, Talysarn, wele y gorchwyl prudd gennym yr wythnos hon o gofnodi ei farwolaeth, yr hyn gymerodd le ddydd Llun ac yntau yn 62 mlwydd oed. Bu Anant yn ddiacon ffyddlon yn eglwys Salem (B.), Talysarn, lle mae congl wag ar ei ôl, ac anhawdd synio nad yw ef mwy. Hoff fyddem bob amser o'i gwmni diddan. Rhoddodd lawer iawn o adroddwyr ar ben y ffordd i gychwyn adrodd, a chwith gennym feddwl na cheir ei hyfforddiant mwy. Nawn Sadwrn daeth tyrfa barchus i dalu'i gymwynas olaf iddo. Rhoddwyd ei weddillion i orwedd ym Macpelah, Penygroes. Gwasanaethwyd wrth y tŷ gan y Parch R. Edwards, Penygroes, yn effeithiol iawn Mae ein cydymdeimlad llwyraf a'i briod ac a'r plant, un o'r rhai sydd yn yr America. Canwyd hoff emyn Anant ar lan y bedd: "Derfydd i mi deithio'r ddaear." [10]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llanllyfni, 1871-1911, a mynegai Find My Past dan Owen Edwards (trwy Brydain)
  2. ‘’Y Genedl Gymreig’’ 1.8.1893 t.6.
  3. Gweler enghreifftiau yn Geraint Llewelyn Jones, ‘’Lloffion o’r Llan – Casgliad o Englynion o fynwentydd Cwmwd Uwch-Gwyrfai’’, (Caernarfon, 1982)
  4. ‘’Y Genedl Gymreig’’ 24.7.1894 t.6
  5. ‘’Y Sylwedydd’’, dyfynnwyd gan Ffion Owen mewn cyflwyniad, [1], cyrchwyd 3.2.2022
  6. ‘’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7
  7. ’’Seren Cymru’’, 4.7.1902, t.12
  8. ’’Yr Herald Cymraeg’’, 1.7.1909, t.7
  9. ’’Y Drych’’, 2.5.1918.
  10. ’’Y Dinesydd Cymreig’’, 3.4.1918, t.5