Lleisiau Mignedd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:07, 1 Chwefror 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Côr merched o Ddyffryn Nantlle yw Lleisiau Mignedd. Fe'i sefydlwyd ym 1982 ac mae'n parhau mewn bodolaeth hyd heddiw (2022). O 1982 hyd 2005, y baswr ac enillydd y Rhuban Glas, Maldwyn Parry oedd yr arweinydd. Fo oedd yr arweinydd pan enillodd y côr yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1988, yn ogystal â phan daeth y côr yn agos at ennill ar sawl achlysur arall. Bu'r côr dan ei arweiniad hefyd yn llwyddiannus deirgwaith yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd. Cafodd y côr lysenw, sef "Cywion Maldwyn".

Erbyn hyn, mae'r côr yn cael ei arwain gan Ceren Lloyd. Maent wedi cyhoeddi dwy grynoddisg o ganeuon, ac wedi ennill y wobr gyntaf yn yr Eisteddfod Genedlaethol eto, yn 2015 ym Meifod, am y côr merched gorau dros 20 o leisiau.