Iona Boggie

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:27, 10 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Aelod o ddeuawd canu gwlad Cymraeg Iona ac Andy yw Iona Boggie ynghyd â'i gŵr, Andrew Edward Boggie (Andy).[1]

Mae'r ddau bellach yn gerddorion proffesiynol, ond am beth amser roedd Iona'n athrawes ysgol gynradd ac roedd Andy'n athro Ffrangeg, yn werthwr gwinoedd, ac yn rheolwr siop. O Nantlle, y daw Iona'n wreiddiol cyn i'r teulu symud i Ddyffryn Conwy. Magwyd ei gŵr ym Mhenmaenmawr.

Ar label Cwmni Sain, maen nhw wedi cyhoeddi: Llwybrau Breuddwydion, Y Ffordd, Cerdded Dros Y Mynydd a Gwin Yr Hwyrnos.

Cyfeiriadau