Edmund Llwyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 19:21, 17 Ionawr 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Edmund Llwyd (neu Iemwnt Llwyd fel yr arferai'r beirdd ysgrifennu ei enw) farw ym 1540/1 yn ystod ei flwyddyn fel Uchel Siryf Sir Gaernarfon. Yn wir, fel aelodau eraill o'i deulu dros y canrifoedd, roedd ganddo reddf a arweiniodd at gefnogi

Roedd yn ail fab Robert ap Meredydd, penteulu Glynllifon' Roedd ei frawd hŷn, Morus Glynn, a fabwysiadodd y cyfenw Glynn am y tro cyntaf yn y teulu mae'n debyg, yn offeiriad Catholig ac yn Archddiacon Meirionnydd, ac felly'n anaddas os nad anghymwys i etifeddu Ystad Glynllifon. Yn ogystal â'r ffaith na ddymunai'r Eglwys i offeiriad fod yn berchen ar gyfoeth mawr, nid oedd offeiriaid Catholig yn cael priodi, ac felly ni fyddai etifeddiaeth yr ystad yn sicr. Sylwer, fodd bynnag, mai Morus a rhai o'i frodyr oedd y rhai cyntaf i arddel y cyfenw "Glynn", tra parhaodd Edmund i ddefnyddio'r enw "Llwyd", a ddaeth yn wreiddiol o'i hen daid, Hwlcyn Llwyd.

Priod Edmund oedd Annes ferch William ap Gruffydd ap Robin, Cochwillan; roedd hi'n weddw Ffowc Salusbury, Llanrwst, pan briododd ag Edmund. Cawsant ddau fab, William Glynn (marw 1594), a etifeddodd y brif ystad; a Robert Glynn, a etifeddodd Sychnant, Llanaelhaearn.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

I'W PARHAU

  1. J E Griffith, Pedigrees of Anglesey & Caernarvonshire Families (Horncastle, 1914), t. 172