Maldwyn Parry
Roedd Maldwyn Parry (1930-2008), a fu'n byw ym mhentref Pen-y-groes, yn athro yn Ysgol Dyffryn Nantlle am flynyddoedd lawer. Daeth i amlygrwydd fel cerddor gan iddo ennill y Rhuban Glas yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1962 gyda'i lais bariton dwfn. Yr oedd hefyd yn un o'r ychydig i ennill y Rhuban Glas yr eildro, a hynny flynyddoedd yn ddiweddarach, ym 1984.[1] Am gyfnod tua 1960 bu'n byw yn Y Bermo, ac roedd yn aelod o gôr meibion y dref honno.
Bu'n arweinydd Côr Llais Cymysg Dyffryn Nantlle am rai blynyddoedd[2] cyn ymuno â chôr Lleisiau Mignedd bron o'r dechrau ym 1982 hyd 2005, gan eu harwain wrth iddynt ennill yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1988, yn ogystal â dod yn agos at ennill ar sawl achlysur arall. Bu'r côr dan ei arweiniad hefyd yn llwyddiannus deirgwaith yn yr Ŵyl Ban-Geltaidd. Cafodd y côr lysenw, sef "Cywion Maldwyn".
Canodd y gân Benedictus yng nghinio Nadolig y côr y noson cyn iddo farw yn 2008. Gadawodd wraig a thri o blant.[3]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma