New Inn, Clynnog Fawr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:55, 18 Hydref 2021 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd y New Inn yn un o dafarnau pentref Clynnog Fawr. Mae'r adeilad yn dal i sefyll, yn union i'r de o fynwent yr eglwys. Erbyn heddiw fe'i gelwir yn "Bod Fasarn". Mae hen ddresel a fu ym Mod Fasarn wedi iddo beidio â bod yn dafarn i'w gweld yn yr Ysgoldy, Canolfan Hanes Uwchgwyrfai.

Nid oes sicrwydd ers pa oes oedd y New Inn wedi bod yn dafarn, ond mae hi'n cael ei henwi mewn gweithred dyddiedig 1769, pan gyfeiriwyd ati fel "New Inn alias Tŷ Cerrig". Ar y pryd roedd yn gysylltiedig â thiroedd eraill yn cynnwys Bachwen, Graeanog, Melin Bryn-y-gro, Melin Faesog, Coch-y-big a Henbant yn y plwyf, a llawer o dir yn Sir Fôn.[1]

Ceir cofnod ym mis Medi 1824, ymysg bondiau yn amodrwymo tafarnwyr Sir Gaernarfon, yn tystio i'r ffaith mai Margaret Thomas oedd y sawl a gadwai'r dafarn yr adeg honno.[2]

Erbyn 1832 os nad cynt, roedd y dafarn yn gysylltiedig yn benodol â Bachwen, pan werthwyd y ddau eiddo gan Syr Richard Bulkeley Williams Bulkeley o Baron Hill, Biwmares i Griffith Jones o Blas Tan-yr-allt.[3]

Adeg creu'r mapiau degwm tua 1840, roedd Bachwen a'r New Inn yn cael eu rhestru fel eiddo i Griffith Jones, yswain, a nodwyd mai Robert John Thomas oedd tenant y New Inn. Ynghyd â'r dafarn ei hun yr oedd 4 cae bach yn ymestyn dros tua 4 acer o dir, a'r rheiny'n borfa, dôl a thir âr.[4]

Erbyn 1895, roedd y dafarn yn eiddo i A.H. Acland. Mae'n bur debyg iddo ei phrynu ym 1880. Ysgrifennodd Acland at F.G. Wynn, Glynllifon, ym 1895 i'w hysbysu fel cyfaill na fyddai'n edrych i ail drwyddedu'r dafarn gan fod Gwesty'r Beuno, eiddo i Wynn, yn dafarn barchus ac na fynnai weld cystadleuaeth. Roedd John Roberts, meddai Acland, yn ddyn o gymeriad gwael ac na hoffai ei weld yn codi tafarn newydd ar dir Maesglas, Clynnog, fel y bwriedid, ac felly byddai'n gwrthwynebu hynny.[5] Yn bur debyg, fel gwleidydd Rhyddfrydol ar adeg pan oedd dirwest mewn bri yng Nghymru, roedd yn ddigon hapus i weld trwydded yn dod i ben hyd yn oed ar ei eiddo ei hun.

Cyfeiriadau

  1. Archifdy Caernarfon, X/Poole/3510
  2. Archifdy Caernarfon, XQA/L/1/848
  3. Archifdy Caernarfon, XD2/6324
  4. Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Map a Rhestr Bennu'r Degwm ar gyfer Clynnog Fawr
  5. Archifdy Caernarfon, XD2/21352